Ein hymrwymiad i gefnogi datblygiad gyrfaoedd technegol
15 Mai 2024
Mae pedair prifysgol Cynghrair y GW4, sef Bryste, Caerdydd, Caerfaddon a Chaerwysg wedi rhyddhau datganiad ar y cyd sy’n cymeradwyo argymhellion Comisiwn TALENT.
Mae’r datganiad ar y cyd, a ryddhawyd i gyd-fynd â deuddegfed Digwyddiad Llofnodwyr yr Ymrwymiad i’r Technegwyr, yng Nghaerdydd ar 15 Mai, yn pwysleisio ymrwymiad y prifysgolion i sicrhau bod argymhellion y Comisiwn yn llywio uchelgais hirdymor y Gynghrair i gefnogi ei chymunedau technegol fel eu bod yn gallu ffynnu.
Wrth gefnogi’r datganiad, bydd y GW4 yn datblygu cyfleoedd sy’n rhoi’r cyfle i arbenigwyr technegol ragori yn eu gyrfaoedd; cydweithio i ymateb yn effeithiol i argymhellion mwyaf perthnasol y Comisiwn; a chyflwyno rhaglenni ac adroddiadau sy'n arwain y sector ar sut y gall dulliau arloesol o ddatblygu gyrfaoedd drawsnewid sgiliau a galluoedd technegol.
Datblygwyd adroddiad y Comisiwn TALENT i gasglu safbwyntiau strategol newydd o ddeall gweithlu technegol y DU ym maes addysg uwch ac ymchwil, a’r Comisiwn yw canlyniad 20 mis o ymchwil fanwl, ymgysylltu â rhanddeiliaid a chasglu tystiolaeth yn y sector.
Yn yr adroddiad mae 16 o brif argymhellion sy’n sail i weledigaeth ehangach y DU i fod yn bwerdy byd-eang ym maes gwyddoniaeth, peirianneg a’r diwydiannau creadigol, yn ogystal â’r gydnabyddiaeth bod yn rhaid i alluoedd a chapasiti technegol gael eu cydnabod, eu parchu, eu dyheu, eu cefnogi a’u datblygu er mwyn cyflawni’r weledigaeth hon.
A nhwthau’n llofnodwyr cynnar, mae gan brifysgolion y GW4 eisoes ymrwymiadau hirsefydlog i’r Ymrwymiad i’r Technegwyr sy’n anelu at sicrhau bod technegwyr sy'n gweithio ym maes addysg uwch ac ymchwil, a hynny ledled pob disgyblaeth, yn cael eu gweld a’u cydnabod a bod eu gyrfaoedd yn cael eu datblygu a’u cynnal.
Mae cynlluniau’r Gynghrair yn yr Ymrwymiad i’r Technegwyr, a ddatblygodd Grŵp Llywio GW4WARD – grŵp sy’n ymrwymedig i gefnogi datblygiad gyrfaoedd technegol staff – yn unol ag argymhellion Comisiwn TALENT, yn dangos bod gweithgareddau presennol GW4 ar gyfer staff technegol eisoes yn cwmpasu llawer o argymhellion TALENT, ond drwy gydweithio mae modd cyflawni mwy.
Ymhlith datblygiadau diweddar y GW4 ym maes datblygu gyrfaoedd technegol y mae cyhoeddi cyllid gwerth £1.97miliwn ar gyfer rhaglen X-disciplinary Challenges from Industry for Technical Expert Development (X-CITED), dull arloesol newydd a fydd yn datblygu cyfleoedd gyrfaol ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Technegol Ymchwil (RTP). Bydd y rhaglen yn cefnogi Gweithwyr Proffesiynol Technegol Ymchwil i wella eu sgiliau drwy gymunedau ymarfer a thrwy eu galluogi i weithio gyda phartneriaid ym myd diwydiant i fynd i'r afael â heriau a chyfleoedd yn y byd go iawn.
Dyma a ddywedodd yr Athro Karin Wahl-Jorgensen, Deon Cyd-destun a Diwylliant Ymchwil Prifysgol Caerdydd: “Mae gweithio gyda’n gilydd yn ein galluogi i gyflawni cymaint mwy i’n technegwyr a’n gweithlu technegol nag y gallai un brifysgol ar ei phen ei hun. Drwy weithredu’r camau unigol rydyn ni’n eu cymryd i ddatblygu’r Ymrwymiad i’r Technegwyr ar y cyd ledled ein sefydliadau, rydyn ni wedi canfod cryn dipyn o arbenigedd a fydd yn ein galluogi i barhau i gefnogi a gwella ein cefnogaeth yn effeithiol i argymhellion Comisiwn TALENT. Edrychwn ymlaen at symud y gwaith hwn yn ei flaen.”
Dyma a ddywedodd Dr Joanna Jenkinson, Cyfarwyddwr Cynghrair y GW4: “Mae gan y GW4 ymrwymiad cadarn i gynnig cymorth datblygu gyrfaol a chynyddu’r graddau y bydd ein harbenigwyr technegol yn cael eu gweld a’u cydnabod. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at gymeradwyo argymhellion Comisiwn TALENT yn ogystal â’r cyfleoedd yn sgil y rhain i wella a chynnal ein hymdrechion parhaus yn y maes hwn."