Mae staff a myfyrwyr Optometreg yn gwella golwg ac yn rhoi gobaith i gymunedau ym Malawi
15 Medi 2023
Yn ddiweddar, treuliodd tîm o 10 myfyriwr sy’n optometryddion a 5 ymchwilydd ac academydd bythefnos yn helpu cymunedau gwledig Malawi drwy sefydlu sawl clinig gofal llygaid allgymorth mewn canolfannau iechyd bach a neuaddau pentref.
Mewn cwta 5 diwrnod, cynhaliodd y tîm fwy na 1500 o brofion golwg gan ddosbarthu mwy na 600 pâr o sbectol. Yn ogystal, gwnaethon nhw helpu i wneud diagnosis o wahanol batholegau a dod o hyd i feddyginiaethau hollbwysig gan fferyllfeydd lleol ar gyfer y rheini mewn angen.
Arweiniwyd y daith gan Pete Hong (Cydymaith Addysgu) a’i goruchwylio gan Sharon Beatty (Athro), Vikki Baker (Cydymaith Addysgu) a'r Athro Barbara Ryan (Dirprwy Bennaeth yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg).
Dyma a ddywedodd Pete Hong:
“Mae myfyrwyr optometreg yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn teithiau gwirfoddoli tramor yn rhan o’u hastudiaethau. Mae hyn yn bosibl oherwydd bwrsariaethau Taith a’r codi arian y mae’r myfyrwyr yn ymgymryd ag ef eu hunain.
Mae myfyrwyr wedi bod yn cymryd rhan mewn prosiectau tramor gyda mi ers mwy nag 20 mlynedd, yn Nwyrain Ewrop i ddechrau ac yn ddiweddarach yn Affrica. Mae pob un ohonon nhw wedi bod yn anhygoel, gan ragori ar fy nisgwyliadau bob amser."
Dyma a ddywedodd Sophie Allcock, myfyrwraig optometreg: “Roedd cael y cyfle i drosglwyddo ein gwybodaeth yn teimlo’n arbennig iawn a pheth anhygoel bellach yw gwybod bod yr offthalmolegwyr yn Blantyre yn gallu asesu golwg a phresgripsiynau cleifion yn gywir.”
Yn ogystal â’u gwaith ymroddedig, gwnaethon nhw hefyd fanteisio ar y cyfle i weld harddwch Malawi, gan gynnwys saffari deuddydd. Yma buon nhw’n ddigon ffodus i weld golygfeydd gwefreiddiol megis llewod, eliffantod, tsitaod a hipopotamysau gwyllt.
“Eisteddon ni yn yr awyr agored, gan wrando ar synau’r anifeiliaid a gwylio rhai o’r machludau haul gorau a welson ni erioed.”
Cefnogaeth wrth godi arian
Mae’r haelioni a’r cymorth wrth godi arian ar gyfer y daith hyd yma wedi:
- Ariannu mwy na 200 o lawdriniaethau cataract
- Darparu pâr o sbectol i fwy na 600 o oedolion a phlant
- Rhoi Tonomedr ICare i fesur pwysau mewnllygadol i Ysbyty Lions Sight First Eye yn Blantyre
- Darparu cymorth golwg gwan i'r ymarferwyr yn yr ysbyty er mwyn rhagnodi ar gyfer pobl â nam ar eu golwg
- Ariannu gwerth blwyddyn o Ribofflafin ar gyfer llawdriniaethau trawsgysylltu
- Rhoi o leiaf un darn o ddillad i fwy na 150 o blant mewn cartref plant amddifad
- Cyfrannu at MSc ar gyfer optometrydd o Blantyre
- Ariannu triniaeth ar gyfer unigolion â chlefydau llygaid amrywiol eraill, gan newid bywydau er gwell.
Mae pawb a gymerodd ran yn estyn eu gwerthfawrogiad diffuant i'r cyfranwyr hael a roddodd gyllid, offer, amser staff neu roddion ariannol i gefnogi eu cenhadaeth.
Yn ddiweddar, cychwynnodd tîm arall o staff a myfyrwyr yn yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg ar genhadaeth i Ghana. Trefnwyd pedwar diwrnod allgymorth, dau ymweliad ag ysbyty a diwrnod DPP. Ar ben hyn, roedd eu cenhadaeth wedi helpu cannoedd o bobl â nam ar eu golwg na fydden nhw fel arall wedi gallu cael gafael ar driniaeth addas.