Astudiaeth newydd sy’n datgelu lle mae cyflwr afonydd Cymru a Lloegr wedi dirywio ers 1990
13 Rhagfyr 2024
Er gwaethaf gwelliannau eang yn iechyd afonydd rhwng 1991 a 2019, mae ymchwilwyr wedi darganfod arwyddion sy’n peri pryder ar gyfer rhai o'r afonydd mwyaf amrywiol yn fiolegol.
Mae astudiaeth newydd, dan arweiniad ymchwilwyr Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd, wedi mapio iechyd cyfnewidiol afonydd yng Nghymru a Lloegr.
Gan ddefnyddio data a gasglwyd dros 29 mlynedd o bron i 4,000 o nentydd ac afonydd, cafodd newidiadau eu hasesu drwy edrych ar yr ystod o infertebratau sy’n byw ar wely’r afon – sy’n ddangosydd iechyd ecosystemau hirsefydlog a sensitif.
Mae nifer o astudiaethau diweddar sy’n defnyddio infertebratau wedi canfod bod iechyd afonydd ar ôl 1990 ledled Cymru a Lloegr wedi gwella’n gyffredinol. Yr astudiaeth newydd hon yw'r gyntaf i edrych yn fanwl ar y newidiadau ledled y wlad, gan ddatgelu sawl ardal lle mae cyflwr afonydd wedi dirywio.
Mae’r astudiaeth yn pwysleisio’r heriau o ran pennu’r achos, ac mae’r dystiolaeth yn dangos bod pwysigrwydd defnydd tir lleol, ansawdd dŵr a ffactorau eraill yn amrywio ledled Cymru a Lloegr.
Dyma a ddywedodd y prif awdur, Emma Pharaoh, sy’n fyfyrwraig PhD: "O ystyried y ffaith bod gwelliant cyffredinol wedi bod, mae'r astudiaeth newydd hon yn rhoi darlun mwy cynnil o’r newidiadau ar ôl 1990, gan ddangos lle mae’r gwella a’r dirywio wedi digwydd.
Dyma a ddywedodd Dr Ian Vaughan, a oruchwyliodd y prosiect: "Mae'n destun pryder bod llawer o'r dirywio’n effeithio ar afonydd o'r ansawdd uchaf, felly er bod llawer o'r afonydd mwyaf llygredig yn hanesyddol wedi gwella ers 1990, mae’n bosibl ein bod ni’n yn colli'r trysorau.
Prosiect ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd, Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyfoeth Naturiol Cymru a Phrifysgol Waterloo, Canada yw’r ymchwil.
Cyhoeddwyd y canfyddiadau yn Science of the Total Environment: Potential drivers of changing ecological conditions in English and Welsh rivers since 1990.