Cymrodyr newydd yr Academi Brydeinig
22 Gorffennaf 2024
Pedwar academydd o'r Brifysgol wedi'u hethol yn Gymrodyr yr Academi Brydeinig.
Bob blwyddyn, mae’r Academi Brydeinig yn ethol i’w Chymrodoriaeth ysgolheigion rhagorol o’r DU, sydd wedi cyflawni rhagoriaeth mewn unrhyw gangen o’r dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol. Maen nhw’n ymuno â chymuned o fwy na 1,700 o academyddion nodedig.
Eleni, cafodd 52 o Gymrodyr newydd o 21 o brifysgolion ledled y DU eu hethol, ynghyd â 30 o Gymrodyr Rhyngwladol arall.
Rydyn ni’n falch o weld pedwar wyneb cyfarwydd yn eu plith:
Yr Athro Norman Doe
Mae’r Athro Norman Doe yn Athro'r Gyfraith yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, Cyfarwyddwr sefydlu Canolfan y Gyfraith a Chrefydd.
Dywedodd: "Daeth yn syndod i mi gael fy ethol yn Gymrawd yr Academi, ond rwy’n falch dros ben. Gan ddod dim ond 4 mis ers fy mhenodi’n Gwnsler anrhydeddus y Brenin, mae'r anrhydedd hwn gan yr Academi Brydeinig yn gydnabyddiaeth pellach o bopeth y mae Canolfan y Gyfraith a Chrefydd - sefydliad rwy’n gyfarwyddwr arno - wedi'i gyflawni ers cynifer o flynyddoedd. Bydd bod yn Gymrawd yr Academi Brydeinig hefyd yn fy ngalluogi i wella ymhellach fy arbenigedd fy hun, sef, hanes cyfraith eglwysig a chyfraith ganonaidd gymharol fodern. Rwy’n hynod ddiolchgar i'r Academi Brydeinig, ac i fy nghydweithwyr yn y Ganolfan am eu holl waith caled am gyfnod mor hir”.
Yr Athro Sophie Gilliat-Ray
Mae’r Athro Sophie Gilliat-Ray yn Athro mewn Astudiaethau Crefyddol a Diwinyddol yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd. Mae hi hefyd yn Bennaeth y Ganolfan Astudiaethau Islam yn y DU.
Dywedodd hi: "Mae'n anrhydedd mawr i mi gael fy ethol yn Gymrawd yr Academi Brydeinig, a hoffwn i ddiolch i'r rhai a gefnogodd yr enwebiad. Mae'r math hwn o gydnabyddiaeth allanol broffesiynol gan fy nghyfoedion yn amlwg yn fraint bersonol i mi, ond mae'n dod â rhwymedigaeth i gefnogi'r gymuned ehangach o ysgolheictod ym maes Astudiaethau Mwslimaidd Prydain, a'r cymunedau a'r sefydliadau Mwslimaidd rydyn ni’n cydweithio â nhw ac yn creu partneriaethau â nhw. Rwy'n gobeithio’n fawr y bydd fy mhenodi’n Gymrawd yn fy ngalluogi i ddatblygu fy maes ymhellach, a'r ysgolheigion rwy’n gweithio gyda nhw."
Yr Athro David James
Mae’r Athro David James yn Athro Cymdeithaseg Addysg yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol. Fe oedd sefydlydd a Chyfarwyddwr Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru ESRC.
Dywedodd: "Mae’n fraint enfawr cael fy ethol yn Gymrawd yr Academi Brydeinig. Hoffwn i ddiolch i'r gwahanol ysgolheigion cenedlaethol a rhyngwladol sydd wedi asesu fy ngwaith ac wedi gwneud hyn yn bosibl. Rwyf yr un mor ddiolchgar i fy nghydweithwyr ym Mhrifysgol Caerdydd. Ers ymuno â'r sefydliad yn 2011 rwyf wedi mwynhau ac elwa o'u cefnogaeth a'u caredigrwydd, a’r berthynas waith rhyngddon ni. O ystyried y pwysau sy'n ein hwynebu ni i gyd ym maes addysg uwch, mae’r pethau hyn yn hanfodol er mwyn aros yn bositif a chynhyrchiol a ninnau’n athrawon ac ymchwilwyr".
Yr Athro Justin Lewis
Mae’r Athro Justin Lewis yn Athro’r Economi Greadigol yn ein Canolfan yr Economi Greadigol, Cyfarwyddwr Clwstwr, a Chyfarwyddwr Media Cymru.
Dywedodd: “Mae’n bleser ac yn anrhydedd cael fy ethol yn Gymrawd yr Academi Brydeinig: maen nhw’n gwneud gwaith rhagorol yn ymgysylltu â llunwyr polisïau i’w hysbysu am bwysigrwydd y celfyddydau, y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol i fywyd cymdeithasol ac economaidd y DU, ac rwy’n edrych ymlaen at fod yn rhan o'r ymdrech honno...”
Wrth groesawu'r Cymrodyr newydd ar gyfer 2024, dywedodd Llywydd yr Academi Brydeinig, yr Athro Julia Black:
"Ers sefydlu’r Academi yn 1902, mae ein Cymrodyr wedi bod yn enaid y sefydliad, sy'n cynrychioli'r gorau o'n disgyblaethau - a fydden ni ddim wedi cael yr effaith rydyn ni wedi’i chael heb eu harbenigedd, eu hamser a'u hegni. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio'n agos gyda'n Cymrodyr newydd; mae ehangder a dyfnder eu harbenigedd yn ychwanegu cymaint i'r Academi."