Gwella bywydau pobl ledled Cymru drwy weithgaredd corfforol a chwaraeon
26 Chwefror 2024
Fel rhan o Sefydliad Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Chwaraeon Cymru (WIPAHS), mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi bod yn defnyddio eu harbenigedd i archwilio amrywiaeth eang o faterion a bydd eu canfyddiadau bellach yn llywio sut gall arweinwyr helpu pobl yng Nghymru i fyw bywydau iachach.
Mae pedwerydd adroddiad blynyddol y sefydliad newydd gael ei gyhoeddi i gyd-fynd ag Wythnos Iechyd Meddwl Plant, a ddigwyddodd rhwng 5-11 Chwefror 2024.
Mae WIPAHS yn rhwydwaith ledled Cymru sy'n galluogi pob un o'r wyth prifysgol yng Nghymru i weithio gyda Chwaraeon Cymru, Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae'n dod â'r byd academaidd, y rhai hynny sy'n hwyluso gweithgarwch corfforol a chwaraeon, llunwyr polisi a'r cyhoedd ynghyd i helpu i greu cymdeithas iachach.
Dywedodd Dr Liba Sheeran, Cynrychiolydd Sefydliad Addysg Uwch,
Ymysg prosiectau eraill, mae WIPAHS yn gweithio ar hyn o bryd i asesu lefelau gweithgarwch corfforol ac ymddygiadau plant a'r glasoed ledled Cymru, a chysylltiad y rhain ag iechyd meddwl a lles. Bydd gwybodaeth a gesglir drwy gyfres o arolygon ar-lein, a dyfeisiau sy’n olrhain gweithgarwch corfforol, yn galluogi ymchwilwyr i nodi’r effaith y mae ffactorau megis y pandemig, newidiadau i'r cwricwlwm ysgolion a phenderfyniadau ariannu’n ei chael ar bobl ifanc ledled Cymru.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae WIPAHS hefyd wedi cymryd rhan mewn prosiectau pellgyrhaeddol, gan gynnwys:
- Babi Actif - menter i helpu rhieni i fod yn actif gyda'u babanod yn ystod 1,000 diwrnod cyntaf eu bywydau
- Adran Pobl Ifanc Egnïol Pen-y-bont ar Ogwr (AYPD) – dechreuwyd cyfres o brosiectau yn 2023, gan gynnwys gwerthuso ei Pharth Teulu Egnïol a'i Rhaglen Arweinwyr Ifanc
- Chynllun Byw Actif Chwaraeon Cymru i Bobl 60 oed, sydd â'r nod o leihau anghydraddoldebau iechyd ac ynysigrwydd cymdeithasol ymhlith pobl dros 60 oed
Mae'r prosiectau eraill sydd yn yr arfaeth yn cynnwys gwerthuso menter ‘Os ei di af i’ Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a pharhau i hyrwyddo Rhwydwaith Iechyd Menywod yng Nghymru i fynd i'r afael â chwestiynau ymchwil allweddol a mentrau o ran iechyd a gweithgarwch corfforol menywod.
Dywedodd Dr Kelly Morgan, Arweinydd Thema Strategol,