Ewch i’r prif gynnwys

Gŵyl i ddathlu effaith ymchwil y dyniaethau

1 Hydref 2024

Being Human Festival 2024

Mae Gŵyl Bod Yn Ddynol yn dathlu'r ffyrdd y mae ymchwil y dyniaethau yn ysbrydoli ac yn cyfoethogi ein bywydau. Prifysgol Caerdydd ac Amgueddfa Cymru’n dod ynghyd ar gyfer gŵyl Being Human, sy’n dathlu ymchwil ym maes y dyniaethau.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi cael ei dewis fel un o bum prif canolfan ledled y DU - a'r unig hwb  yng Nghymru - ar gyfer Gŵyl Being Human, dathliad cenedlaethol o ymchwil y dyniaethau drwy ymgysylltu â'r cyhoedd.

Mae Gŵyl Bod Yn Ddynol yn dathlu'r ffyrdd mae ymchwil ym maes y dyniaethau’n ysbrydoli ac yn cyfoethogi ein bywydau bob dydd, gan ein helpu i ddeall ein hunain, ein cymuned a'r heriau sy'n ein hwynebu mewn byd sy'n gyson newid.

Cynhelir rhwng 7-16 Tachwedd 2024, bydd hwb Prifysgol Caerdydd yn darparu rhaglen ranbarthol o ddigwyddiadau gŵyl sy'n cysylltu ymchwil â hanes, diwylliannau a chymunedau ein hardaloedd lleol. Mae'r thema eleni o 'Dirnodau' hefyd yn nodi 10 mlynedd ers yr ŵyl. Nid oes cost i fynychu, ac mae'r rhan fwyaf o ddigwyddiadau ar agor i bawb, er bod rhai wedi'u hanelu at grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Dywedodd Dr Jenny Kidd, Arweinydd Academaidd yr Ŵyl ym Mhrifysgol Caerdydd: "Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cael ein dewis unwaith eto fel brif ganolfan ar gyfer Gŵyl Bod yn Ddynol . Mae'r ystod o weithgareddau y byddwn yn eu cynnal yn dyst i fywiogrwydd ymchwil y celfyddydau a'r dyniaethau ac ymgysylltu â'r cyhoedd o fewn cymuned Prifysgol Caerdydd ac ymhlith y grwpiau yr ydym yn cydweithio. Edrychwn ymlaen at groesawu pobl i'r ŵyl".

Nod ein hystod eang o ddigwyddiadau ŵyl, a gyflwynir ochr yn ochr â llu o bartneriaid cymunedol, yw dathlu neu gael eu cynnal mewn lleoedd eiconig yng Nghymru. Mae rhaglen yr ŵyl yn cynnwys teithiau cerdded a theithiau i ddatgelu hanes cudd ac anghofiedig y ddinas, dathliad deuddydd i'r teulu o 6,000 o flynyddoedd o hanes Cymru, arddangosfa a thaith wrando wedi'i chyd-gynhyrchu sy'n archwilio cysgu a natur ar gyfer gwirfoddolwyr parc y ddinas, ac arddangosfa o fusnesau nodedig lleol yn Grangetown.

Bydd y digwyddiadau'n tynnu ar ystod o ymchwil dyniaethau - o archaeoleg gymunedol, cyfiawnder cwsg yn y ddinas, datgloi archifau'r brifysgol a llyfrau prin, rôl ein hymchwil wrth guradu'r Rhyfel ac arddangosfa Mind yn yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol, a gweithdy yn archwilio rôl menywod yn hanes diwydiannol cymoedd Abertawe-Dulais-Castell-nedd.

Gwelir ein rhaglen 2024.

Mae ein rhaglen yn cydweithio ag amrywiaeth eang o bartneriaid cymunedol a diwylliannol i gynnwys Imeriasl War Museums, CAER, Pafiliwn Grange, Cyngor Caerdydd, a Gweithdy DOVE - sefydliad yng Nghwm Dulais sydd wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd dysgu yn y gymuned.

Mae Gŵyl Bod yn Ddynol yn cael ei chynnal rhwng 7 a 16 Tachwedd 2024. Arweinir Gŵyl Bod yn Ddynol gan yr Ysgol Astudiaethau Uwch ym Mhrifysgol Llundain, gyda chefnogaeth hael gan Research England, mewn partneriaeth â Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau a'r Academi Brydeinig. Mwy o wybodaeth yn beinghumanfestival.org

Rhannu’r stori hon