Ewch i’r prif gynnwys

Face-to-face with the enemy

7 Tachwedd 2024

The Christmas Truce 1914
The Christmas Truce 1914

Ymchwil newydd ar ddod wyneb-yn-wyneb â’r gelyn dros y ddwy ganrif ddiwethaf yn cael ei dangos mewn arddangosfa newydd yn yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol

Sut mae agweddau tuag at y gelyn yn newid pan fyddwch chi’n dod wyneb-yn-wyneb ag ef mewn rhyfel?

Yn rhan o brosiect newydd o bwys, mae’r Athro Llenyddiaeth Saesneg, Holly Furneaux, wedi ymuno â Dr Matilda Greig (sydd bellach yn hanesydd yn Amgueddfa Genedlaethol y Fyddin) i ymchwilio i’r rhyngweithio â’r gelyn yn ystod gwrthdrawiadau dros amser. Mae’r ymchwil hon wedi’i chynnwys yn rhan o arddangosfa newydd yn yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol yn Llundain.

Gan gydweithio ym meysydd llenyddiaeth Saesneg a hanes, daeth yr Athro Furneaux a Dr Greig o hyd i sawl achos o agosrwydd at y gelyn, boed ar ffurf cadoediad, trin milwyr clwyfedig neu ofalu am garcharorion rhyfel, yn rhan o’u prosiect ymchwil newydd.

Mae Cwrdd dan Gysgod Rhyfel: Dod Wyneb-yn-Wyneb â’r Gelyn 1800 – 2020 yn cwestiynu agweddau milwrol a sifilaidd tuag at y gelyn, a’r ffyrdd y gwnaeth realiti rhyfel wanhau neu danio casineb tuag at y gelyn.

Ac yntau’n rhan o'r adran Fighting Wars o’r arddangosfa War and the Mind yn yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol, mae Cwrdd dan Gysgod Rhyfel yn ymchwilio i syniadau o wahaniaeth ac agosrwydd, a’r ffiniau niferus a geir mewn rhyfel – gan gynnwys o ran cenedl, hil, crefydd a diwylliant.

Mae meddwl, emosiwn ac ymddygiad dynol wrth wraidd y rhesymau pam mae bodau dynol yn dechrau rhyfeloedd, yn eu hymladd, yn eu dioddef ac yn eu diweddu. Mae War and the Mind yn gofyn i ymwelwyr ailystyried gwrthdaro drwy'r lens seicolegol hon.

Ochr yn ochr â gwrthrychau sy’n dod o gasgliadau amgueddfa, mae’r arddangosfa’n cynnwys prosiectau ymchwil arloesol a ariennir gan Ymchwil ac Arloesedd y DU, yn enwedig gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC).

Mewn sgwrs gyhoeddus a sesiwn holi-ac-ateb am ddim (14 Tachwedd, 17:00] a gynhelir yn yr Ŵyl Bod yn Ddynol eleni yn y Deml Heddwch, Caerdydd, bydd yr Athro Furneaux, Laura Clouting, sef Uwch-guradur yr arddangosfa War and the Mind, a Karen Diamond, sef Cyfarwyddwr Artistig Re-Live, yn treiddio’n ddwfn i heriau cyflwyno hanesion anodd, ac yn rhoi ystyriaeth i brofiadau meddyliol ac emosiynol cymhleth o wrthdrawiadau.

Dyma a ddywedodd yr Athro Furneaux wrth esbonio’r prosiect ymhellach:

'Mae'r arddangosfa wedi rhoi cyfle inni arddangos rhai o’r canfyddiadau mwy annisgwyl a ddaeth yn sgîl ein hymchwil, megis y cywilydd a deimlwyd yn aml wrth garcharu milwyr y gelyn. Yn y cyfnod llawn gwrthdaro ac ynysoldeb sydd ohoni, mae wedi bod yn fraint i allu gweithio ar hanes heriol agosrwydd rhwng gelynion, a mireinio syniadau drwy ddeialog gyda chyn-filwyr a milwyr ynghylch eu profiadau o’r gelyn.’

Mae’r Athro Holly Furneaux yn arbenigo ym maes llenyddiaeth a diwylliant Oes Fictoria. Ar y cyd â Matilda Greig, hi yw golygydd y llyfr Enemy Encounters in Modern Warfare, ac mae ei llyfr o’r enw Enemy Intimacies and Strange Meetings in Writings of Conflict 1800-1918 ar ddod gyda Gwasg Prifysgol Rhydychen. A hithau’n gynghorydd ar gyfer cyfres Dickensian y BBC, bu iddi guradu’r arddangosfa Created in Conflict: Soldier Art from the Crimean War to the Present yn ddiweddar. Ymhlith ei llyfrau blaenorol mae Military Men of Feeling: Emotion, Touch and Masculinity in the Crimean War, a Queer Dickens: Erotics, Families, Masculinities.

Mae Cwrdd dan Gysgod Rhyfel: Dod Wyneb-yn-Wyneb â’r Gelyn 1800 – 2020 yn bartneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd, yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol, yr Amgueddfa Meddygaeth Filwrol a’r elusen Celfyddydau mewn Iechyd Re-Live, a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau.

Bydd War and the Mind ar agor yn yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol yn Llundain tan 27 Ebrill 2025.

Rhannu’r stori hon