Prifysgol Caerdydd yn dathlu dyfarniad o fri Sefydliad Iechyd y Byd unwaith eto am ei Chanolfan Gydweithredol ar gyfer Datblygu Bydwreigiaeth
16 Rhagfyr 2024
Nododd Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Caerdydd garreg filltir hanesyddol gyda digwyddiad i ddathlu ar 6 Rhagfyr, 2024, i gydnabod cael ei dynodi’n Ganolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Datblygu Bydwreigiaeth am y drydedd tro’n olynol.
Daeth y dathliad, a gynhaliwyd ar gampws Gorllewin Parc y Mynydd Bychan newydd Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, â ffigurau amlwg o’r dirwedd gofal iechyd byd-eang a rhanbarthol at ei gilydd, gan danlinellu pwysigrwydd y Ganolfan o ran hyrwyddo addysg a datblygiad bydwreigiaeth ledled y byd.
Roedd y digwyddiad, a oedd yn cynnwys lleisiau blaenllaw ym maes bydwreigiaeth a gofal iechyd, yn arddangos rôl hanfodol Prifysgol Caerdydd wrth gefnogi cenhadaeth Sefydliad Iechyd y Byd i gryfhau bydwreigiaeth ar draws y Rhanbarth Ewropeaidd a thu hwnt. Ymhlith y gwesteion nodedig roedd Margrieta Langins, Cynghorydd Polisi Nyrsio a Bydwreigiaeth ar gyfer Sefydliad Iechyd y Byd Ewrop; yr Athro Sue Tranka, Prif Swyddog Nyrsio Cymru; Karen Jewell, Prif Swyddog Bydwreigiaeth Cymru; a Mervi Jokinnen o Goleg Brenhinol y Bydwragedd (RCM). Ymunodd Dr. Nisor Becia, Conswl Anrhydeddus Rwmania yng Nghymru, a nifer o fydwragedd ymgynghorol ac arweinwyr gofal iechyd o Fyrddau Iechyd Prifysgolion partner.
Roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle i’r Athro Kate Button, Pennaeth newydd Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, ymgysylltu â’r cyhoedd am y tro cyntaf. Mynegodd falchder yng nghyflawniadau'r Ganolfan ac ailddatgan ei hymrwymiad i nodau iechyd byd-eang.
Gwaddol o Effaith Fyd-eang
Mae’r WHOCC ym Mhrifysgol Caerdydd yn un o ddwy ganolfan o’r fath yn y byd sydd wedi ymroi i ddatblygu bydwreigiaeth yn unig, ochr yn ochr â Phrifysgol Chile. Mae'r ailddynodiad hwn yn nodi arweinyddiaeth barhaus Prifysgol Caerdydd wrth hyrwyddo rhagoriaeth ym maes bydwreigiaeth trwy addysg sy'n seiliedig ar dystiolaeth, cydweithio’n strategol â phartneriaid byd-eang a gwaith y Ganolfan i gryfhau addysg a hyfforddiant cyn-wasanaeth Bydwreigiaeth ar draws y Rhanbarth Ewropeaidd.
Arweiniodd Grace Thomas, Cyfarwyddwr WHOCC dros Ddatblygu Bydwreigiaeth Prifysgol Caerdydd, a Kerry Phillips, Dirprwy Gyfarwyddwr a Chyfarwyddwr newydd, y digwyddiad, gan danlinellu cyfraniadau hanfodol y Ganolfan i iechyd mamau a babanod newydd-anedig. Tynnodd yr Athro Stephen Riley, Dirprwy Is-ganghellor Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd ym Mhrifysgol Caerdydd, sylw hefyd at rôl hollbwysig y Ganolfan o ran cryfhau safle Cymru fel arweinydd byd-eang wrth arloesi ym maes gofal iechyd.
Mae gwaith nodedig o'r cyfnodau dynodi blaenorol yn cynnwys datblygu'r Adnodd Asesu Bydwreigiaeth ar gyfer Addysg (MATE) a gafodd ei greu ar y cyd rhwng WHOCC Prifysgol Caerdydd a bydwragedd o'r Weriniaeth Tsiec, Bwlgaria a Lithwania. Wedi’i gyhoeddi yn 2020 gan Sefydliad Iechyd y Byd, a chyda diweddariadau ar y gweill ar gyfer 2025, nod yr adnodd yw cefnogi Aelod-wladwriaethau Sefydliad Iechyd y Byd sy’n dymuno datblygu addysg bydwreigiaeth i gryfhau’r gweithlu bydwreigiaeth.
Trawsnewid Bywydau trwy Fydwreigiaeth
Pwysleisiodd Grace Thomas, Cyfarwyddwr presennol y Ganolfan, bŵer trawsnewidiol bydwreigiaeth, gan nodi:
Mae gwaith ein WHOCC yn canolbwyntio ar ddatblygu bydwreigiaeth, yn benodol addysg bydwreigiaeth cyn-wasanaeth sy'n hanfodol bwysig i bob gwlad. Mae gennym dystiolaeth glir y gall Bydwragedd sydd wedi’u haddysgu i safonau rhyngwladol, sydd wedi’u trwyddedu a’u rheoleiddio i ymarfer i gwmpas llawn ymarfer bydwreigiaeth fel y’i diffinnir gan WHO ac ICM, ac sy’n gweithio fel rhan o dimau amlddisgyblaethol, atal 80% o farwolaethau mamau. Felly, mae cefnogi gwledydd i ddatblygu cwricwla ar gyfer addysg bydwreigiaeth a addysgir gan y gyfadran bydwreigiaeth yn gam hanfodol i sicrhau iechyd i bawb.
Tynnodd sylw at fentrau parhaus, gan gynnwys diweddariadau i MATE i’w cyhoeddi’n 2025, a’r gwaith parhaus i gyflwyno’r adnodd mewn mwy o wledydd, cyfrannu at Fap Rhanbarthol EURO Building Better Together ar gyfer nyrsio a bydwreigiaeth, a chefnogi swyddfa Sefydliad Iechyd y Byd yn Rwmania gyda gwaith i wella gofal newydd-anedig a chyswllt croen-wrth-groen adeg geni, yn ogystal â’r gwaith parhaus i addysgu carfannau o fyfyrwyr bydwreigiaeth yn awr ac yn y dyfodol – dyfodol y gweithlu bydwreigiaeth.
Ychwanegodd Kerry Phillips, Dirprwy Gyfarwyddwr a Chyfarwyddwr newydd:
Mae’n anrhydedd i’n tîm gael ei ddynodi’n Ganolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd i gydnabod ein profiad a’n harbenigedd ym maes bydwreigiaeth ac, yn benodol, addysg bydwreigiaeth cyn cofrestru. Mae'r cyfle i gydweithio a chefnogi gwledydd yn natblygiad bydwreigiaeth fel proffesiwn yn hanfodol bwysig, oherwydd gall bydwreigiaeth wella diogelwch ac ansawdd genedigaeth ac achub bywydau mamau a babanod. Darparu cyngor, cymorth ac arbenigedd i gynhyrchu a lledaenu arferion sy’n seiliedig ar dystiolaeth yw ein rôl allweddol fel WHOCC.
Edrych i'r dyfodol
Wrth i Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd ddechrau ei thymor pedair blynedd nesaf fel Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd, mae cael ei hail-ddynodi’n tanlinellu ei hymroddiad i wella canlyniadau iechyd mamau a babanod newydd-anedig byd-eang. Roedd llwyddiant y digwyddiad yn adlewyrchu llwyddiannau'r Ganolfan yn y gorffennol yn ogystal â’i gweledigaeth ar gyfer dyfodol, lle mae bydwreigiaeth wrth wraidd sicrhau tegwch iechyd ledled y byd.