Llwyddiant i Gaerdydd yng Ngwobrau Prifysgolion The Guardian
31 Mawrth 2017
Menter Pharmabees yn ennill categori Cynaliadwyedd mewn seremoni wobrwyo sy'n dathlu rhagoriaeth mewn prifysgolion yn y DU.
Mae menter i ddenu gwenyn, a gynhaliwyd gan Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol y Brifysgol, wedi ennill y categori Cynaliadwyedd yng Ngwobrau Prifysgolion The Guardian 2017.
Cafodd y wobr ei chyflwyno yr wythnos hon (29 Mawrth) mewn seremoni yn Llundain a oedd yn arddangos gwaith arloesol mewn prifysgolion yn y DU i drawsnewid bywydau myfyrwyr a chymunedau.
O ganlyniad i brosiect Pharmabees, mae'r Brifysgol wedi cael ei chydnabod gan Lywodraeth Cymru fel sefydliad sy'n cynnig amgylchedd addas i wenyn – ymrwymiad at gynaliadwyedd gyda'r nod o fynd i'r afael ag ymwrthedd i gyffuriau. Mae gwenyn yn hanfodol i barhad y blaned, ond mae eu niferoedd yn gostwng yn sylweddol. Mae campws Caerdydd yn hybu twf y boblogaeth leol o wenyn, ac mae plannu blodau gwyllt penodol y mae eu neithdar i'w gael mewn mêl gwrthficrobaidd yn helpu ymchwilwyr sy'n chwilio am gyffuriau newydd i drin heintiau mewn ysbytai sy'n cael eu hachosi gan archfygiau.
Ar ôl darganfod pa blanhigion sy'n well gan wenyn sy'n cynhyrchu mêl, mae tîm Pharmabees wedi dechrau ail-greu'r mêl yn naturiol ar y campws, ac annog ysgolion a chymunedau lleol i gael eu cychod gwenyn eu hunain.
Dechreuodd y tîm drwy osod cychod gwenyn ar do Adeilad Redwood, hyfforddi aelodau staff i ofalu am wenyn, a phlannu planhigion gwrthfacterol yn y tir o gwmpas yr adeilad i ddenu gwenyn. Yn dilyn y llwyddiant cychwynnol hyn, gosodwyd cychod gwenyn ar do nifer o adeiladau eraill ar y campws, ac mae'r tîm wedi bod yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws y Brifysgol i greu cymuned o wenynwyr.
Dywedodd yr Athro Les Baillie, o'r Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol: "Mae'r gostyngiad yn nifer y gwenyn wedi'i achosi'n rhannol gan y ffaith eu bod wedi colli llawer o'u cynefinoedd. Trwy wneud penderfyniad strategol ynglŷn â pha blanhigion sydd gennym ar y campws, gallwn gyfrannu at helpu'r creaduriaid hyn sy'n hanfodol er mwyn i ni oroesi.
"Mae'r prosiect wedi cydio yn nychymyg ein staff, myfyrwyr a gwirfoddolwyr ar draws y ddinas, ac i raddau helaeth mae llwyddiant y fenter yn ganlyniad gwaith caled ein garddwyr a gwenynwyr gwirfoddol! Mae'n rhaid hefyd diolch i'n cydweithwyr yn yr adran Ystadau, sydd wedi ein helpu i wneud cynnydd ar y prosiect, ac a fydd yn chwarae rhan allweddol yn llwyddiant parhaus y prosiect."
Dim ond un cam yn y broses yw creu Prifysgol sy'n addas i wenyn. Mae'r tîm hefyd yn troi Caerdydd yn ddinas sy'n addas ar gyfer gwenyn, ac yn troi'r prosiect yn fodel y gellir ei rannu â rhanbarthau eraill hefyd. Drwy fynd allan i'r ddinas, mae'r tîm wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid allanol i droi gerddi, parciau, safleoedd gwag yn y ddinas yn gynefinoedd delfrydol.
https://www.youtube.com/watch?v=tQctVn4QQQU&feature=youtu.be&a
Mae'r Brifysgol wedi llwyddo i ddenu arian gan amrywiaeth o ffynonellau ar gyfer y fenter, sydd wedi ei galluogi i ddatblygu partneriaethau â sefydliadau ledled de Cymru i gyfoethogi bioamrywiaeth mannau gwyrdd. Mae hyn wedi cynnwys £14,000 gan Lywodraeth Cymru i gefnogi Tetto Verde, prosiect i greu mannau gwyrdd mewn ardaloedd trefol; £9,500 gan Ymddiriedolaeth Wellcome i gefnogi ysgolion lleol i ddysgu disgyblion am wenyn a bioamrywiaeth; £20,000 i ddatblygu to gwyrdd sy'n addas i wenyn er mwyn cyfoethogi'r amgylchedd trefol; £12,000 i weithio gyda chydweithwyr yn yr adran hanes i ymchwilio i dechnegau hynafol o roi mêl ar glwyfau fel sail i gyffuriau modern; a £5,000 gan Santander i gefnogi Spot a Bee, prosiect gwyddoniaeth sy'n cynnwys aelodau o'r cyhoedd i greu map o Gaerdydd sy'n dangos lleoliad y planhigion sydd wedi denu gwenyn lleol.
Mae'r prosiect hefyd wedi bod yn llwyddiannus o ran helpu i ennyn diddordeb plant ym myd gwyddoniaeth a'r byd naturiol. Hyd yma, mae Pharmabees wedi cysylltu ag wyth o ysgolion ar draws y rhanbarth, gan roi cychod gwenyn iddynt, ynghyd â hyfforddiant ac offer addysgol sy'n gysylltiedig â'r cwricwlwm cenedlaethol.