Blog HPP: Mae Anna Harris yn gadael am Dde Affrica i ddyfarnu yng Nghwpan y Byd T20 Menywod yr ICC
31 Ionawr 2023
Blog Myfyrwyr: Anna Harris - MBBCH Meddygaeth /Rhaglen Perfformiad Uchel (Dyfarnwr Criced)
Rwy'n ysgrifennu hwn ar ôl gorffen pacio ar gyfer fy nhaith mis o hyd i Dde Affrica ar gyfer Cwpan y Byd T20 Menywod yr ICC. Rwy’n siŵr fy mod wedi pacio gormod, ond gan mai hon yw fy Nghwpan y Byd cyntaf rwy’n meddwl y gellir maddau i mi am bacio nifer helaeth o grysau-t, sanau a chynhyrchion bwyd Prydeinig angenrheidiol. Mae fy nghyfraniadau at gronfa byrbrydau’r grŵp yn cynnwys Jaffa Cakes, bysedd siocled, Percy Pigs, a chacennau bach Colin the Caterpillar. Yn wir, mae’n debyg fy mod yn enwog ymhlith fy nghydweithwyr yn y DU am ddarparu byrbrydau! Efallai y dylwn ail-wylio'r seminar maeth...
Cwpan y Byd fydd fy ail dwrnamaint ICC. Teithiais i Jersey fis Awst diwethaf i weinyddu yn nhwrnamaint Cynghrair B Her Cwpan y Byd Criced. Fodd bynnag, hwn fydd fy Nhwrnamaint Merched ICC cyntaf, ac rwy'n awyddus i fynd i brofi fy hun ar lwyfan y byd.
Roedd fy ymddangosiad cyntaf yn 22 oed yng nghyfres ODI Merched Lloegr v Seland Newydd, ond dyma fy Ymddangosiad Rhyngwladol T20 cyntaf - am le i ddechrau! Pan ddechreuais i ddyfarnu yn 2016/17 wnes i erioed ddychmygu byddwn mewn Gemau Rhyngwladol 6-7 mlynedd yn ddiweddarach, heb sôn am fynd i fy Nghwpan y Byd cyntaf yn 24 mlwydd oed.
Cwpan y Byd hwn fydd y tro cyntaf i ddigwyddiad ICC gael panel cyfan gwbl o fenywod yn ddyfarnwyr a chanolwyr gemau. Mae hon yn garreg filltir sy’n dyst i dwf criced Menywod ledled y byd. Bydd gan bob dyfarnwr gemau cynhesu, cyn 8 gêm grŵp; a bydd 4 ohonynt ar y cae.
Bydd y gemau'n cael eu darlledu ar y teledu trwy wahanol ddarparwyr ledled y byd. Ar ôl llwyddiant Cwpan y Byd T20 diwethaf yn Awstralia (lle’r oedd dros 85,000 o gefnogwyr yn gwylio’r rownd derfynol) a Chwpan y Byd ODI yn Seland Newydd, mae’r cefnogwyr yn y gemau a’r gwylwyr ar y teledu yn cynyddu o hyd. Y gobaith yw y bydd mwy o ferched a menywod yn cael eu hysbrydoli i chwarae criced neu i ddyfarnu a chymryd rhan yn yr ail gamp fwyaf poblogaidd yn y byd.
Rhaid i mi gydnabod y gefnogaeth y mae Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd wedi’i rhoi i mi ochr yn ochr â Rhaglen Perfformiad Uchel Caerdydd. Gall fod yn anodd cydbwyso gradd Feddygol ran-amser gyda fy ngyrfa Criced Ryngwladol, ond gyda chefnogaeth yr ysgol a’r rhaglen rydym yn llwyddo.