Aldi yn cael ei enwi’n brif noddwr Rhaglen Perfformiad Uchel Prifysgol Caerdydd
1 Hydref 2021
Mae’n bleser gennym gyhoeddi mai Aldi yw prif noddwr ein Rhaglen Perfformiad Uchel ar gyfer blwyddyn academaidd 2021-22.
Bydd pumed archfarchnad fwyaf y DU, Aldi, yn noddi’r Rhaglen Perfformiad Uchel am 12 mis ac yn rhoi bwrsari i ddau fyfyriwr sy’n athletwyr ar y rhaglen. Bydd y nawdd hefyd yn helpu myfyrwyr Prifysgol Caerdydd i nodi gyrfa addas, a hynny drwy roi cyngor ar yrfaoedd a chynnal gweithdai yn ystod y flwyddyn academaidd. Mae Aldi eisoes wedi bwrw gwreiddiau dwfn ym maes chwaraeon elît – mae’r archfarchnad wedi bod yn bartner swyddogol i Dîm GB ers tro a chefnogi athletwyr drwy gydol eu taith.
Mae’r bwrsarïau’n cael eu rhoi i ddau ymgeisydd llwyddiannus er mwyn eu helpu i dalu costau gwneud hyfforddiant, cymryd rhan mewn cystadlaethau a phrynu offer wrth astudio ar gyfer eu gradd. Y ddau sydd wedi llwyddo i gael bwrsari gan Aldi ym mlwyddyn academaidd 2021-22 yw Hannah Bullock a James Heneghan.
Dywedodd Hannah Bullock, gymnastwr sy’n cynrychioli Prydain Fawr a myfyrwraig Cemeg yn ei hail flwyddyn:
“Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i weithio gydag Aldi ar y rhaglen hon. Mae’r cyllid wedi fy ngalluogi i deithio i sawl gwersyll hyfforddi ym Mhrydain Fawr a hedfan i wahanol wledydd i gynrychioli Prydain Fawr, ac rwy’n hynod ddiolchgar am hynny.”
Ar ôl cael bwrsari gan Aldi, dywedodd James Heneghan, athletwr o Gymru a myfyriwr Meddygaeth yn ei bedwaredd flwyddyn:
“Rwy'n hynod ddiolchgar i Aldi am eu cefnogaeth. Rwy’n gobeithio adeiladu ar fy nghanlyniadau cryf yn 2021 yng Ngemau’r Gymanwlad eleni. Rwy’n teimlo bod Rhaglen Rheolwyr Ardal Aldi i Raddedigion yn rhoi cyfleoedd gwych i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd.”
Rhaglen Rheolwyr Ardal Aldi i Raddedigion
Mae gan Aldi dros 900 o siopau a mwy na 36,000 o weithwyr ledled y DU. Mae'n bwriadu agor siop rhif 1,200 erbyn 2025, ac i’w helpu i dyfu, mae'n gobeithio recriwtio gweithwyr uchelgeisiol, brwdfrydig a phenderfynol sydd â diddordeb angerddol mewn rheoli manwerthu.
Mae ei Raglen Rheolwyr Ardal i Raddedigion yn un gystadleuol sy’n cynnig 100 o swyddi newydd ledled y wlad bob blwyddyn pan fydd myfyrwyr yn graddio. Mae Rheolwyr Ardal Aldi yn gyfrifol am gadw nifer o siopau. Maent yn ymwneud â phob agwedd ar y busnes, o reoli pobl a sicrhau bod siopau'n cyrraedd targedau gwerthu i gyflwyno mentrau newydd. Mae'r swydd yn un brysur ac amrywiol. Felly, mae'n bwysig bod ymgeiswyr yn weithgar, yn benderfynol ac yn awyddus i ddysgu.
Mae'r rhaglen yn cynnwys 12 mis o hyfforddiant dwys ar sut i reoli gweithlu rhanbarthol yn llwyddiannus. Yn ystod y cyfnod hwn, mae’r graddedigion yn cael cyfle unigryw i weld pob agwedd ar fusnes Aldi, gan gynnwys cydweithio â thimau’r siopau a’r canolfannau dosbarthu rhanbarthol ac ymgolli yng ngwaith y Brif Swyddfa. Ar ddiwedd y rhaglen, mae Rheolwyr Ardal yn derbyn cyfrifoldeb am eu hardal eu hunain ac yn cael yr allweddi am hyd at bedair siop.
Gall y rhai sy'n dod yn syth o'r brifysgol ac sydd â gradd 2:1 mewn unrhyw bwnc wneud cais i’r rhaglen. Byddant yn cael cyflog cystadleuol i ddechrau, gan gynnwys car cwmni.
Rhagor o wybodaeth am y Rhaglen Rheolwyr Ardal i Raddedigion.