Ewch i’r prif gynnwys

Cydweithio gyda Cherddorfa Symffoni Utah

13 Rhagfyr 2021

Professor Arlene Sierra posing for a photo

Yr Athro Arlene Sierra yn dychwelyd o'i hymweliad cyntaf â Salt Lake City fel Cyfansoddwr Cyswllt gyda Cherddorfa Symffoni Utah.

Mae Arlene Sierra, athro yn yr Ysgol Cerddoriaeth a Chyfansoddwr Cyswllt gyda Cherddorfa Symffoni Utah wedi dychwelyd o'i thaith i Salt Lake City a ddechreuodd ym mis Tachwedd. Yn ystod ei chyfnod yn Utah bu'n cydweithio gyda'r gerddorfa ar berfformiad ac yn gweithio gyda'r gymuned ar gyfansoddi cerddoriaeth glasurol.

Roedd yr ymweliad yn bosibl yn dilyn penodi'r Athro Sierra yn Gyfansoddwr Cyswllt gyda Cherddorfa Symffoni Utah. Dros dymor 2021-2022 bydd yn ymweld â Salt Lake City dair gwaith i ymarfer a pherfformio ei cherddoriaeth, yn ogystal â nifer o brosiectau allgymorth yn y gymuned a darlithoedd mewn prifysgolion lleol.

Ar ei hymweliad cyntaf ag Utah ym mis Tachwedd perfformiodd Symffoni Utah bremiere yr UD o gyfansoddiad cerddorfaol cyntaf yr Athro Sierra 'Aquilo' yn Neuadd Abravanel mewn cyngerdd gyda'r arweinydd Shiyeon Sung o Dde Korea. Enillodd 'Aquilo' Wobr nodedig Takemitsu yn 2001 ac mae wedi'i berfformio'n rhyngwladol sawl tro a'i recordio ers hynny, ond hwn oedd y perfformiad cyntaf ym mamwlad y cyfansoddwr.

Fel Cyfansoddwr Cyswllt, mae gan Sierra rôl sylweddol yn y gymuned hefyd. Ar ei hymweliad diweddar, bu Sierra yn gweithio ar draws Salt Lake City fel llysgennad dros gerddoriaeth newydd. Bu'n darlithio mewn tair prifysgol, rhoddodd ddosbarthiadau meistr i gyfansoddwyr prifysgol, cyfarfu â chyfansoddwyr mewn ysgolion uwchradd yn gysylltiedig â cherddorfeydd ieuenctid yn yr ardal ac arweiniodd weithdy gyda phlant ysgol lleol mewn rhaglen gerddoriaeth El Sistema leol.

Cafodd gyfle hefyd i weithio gyda Symffoni Ieuenctid Utah a Ffilharmonig Ieuenctid Utah ar ddarn newydd, 'Butterfly House', darn o 'Nature Symphony' wedi'i deilwra'n arbennig ar gyfer cerddorion ifanc.

Yn ystod ymweliadau sydd ar y gweill yn ystod gwanwyn 2022, bydd yr arweinydd uchel ei barch o'r Swistir Thierry Fischer yn arwain premiere yr UD o 'Nature Symphony' (comisiwn gan BBC Philharmonic / Radio Tri) a'r premiere byd o ‘’Bird Symphony’’ – comisiwn newydd gan Symffoni Utah.

Ar ôl derbyn Cymrodoriaeth Ymchwil Leverhulme yn 2020 am ei phrosiect cyfansoddi 'Orchestral Ecologies' mae'r Athro Arlene Sierra wedi bod ar gyfnod sabothol o ddwy flynedd i ffwrdd o addysgu ym Mhrifysgol Caerdydd er mwyn neilltuo ei holl amser i gyfansoddi symffonig a recordiad newydd gyda Bridge Records.

"Roedd fy ymweliad diweddar â Symffoni Utah a'i chymuned ffyniannus yn bleser ac yn ysbrydoliaeth lwyr, yn enwedig ar ôl cyfnod hir o gyfansoddi cymharol ynysig, a cholli cynifer o berfformiadau byw diolch i'r pandemig. Rwy'n edrych ymlaen at fy ymweliadau nesaf yn eiddgar!"

Yr Athro Arlene Sierra Professor of Music Composition

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn cynnig amgylchedd cynhalgar lle gall myfyrwyr a staff weithio gyda’i gilydd ar amrywiaeth mawr o feysydd ysgolheictod cerddorol, cyfansoddi a pherfformio.