Gwenu’n Brafiach: Gwella iechyd y geg plant sy'n dechrau yn yr ysgol uwchradd
28 Ionawr 2025

Mae llai o blant yng Nghymru yn dechrau’r ysgol uwchradd â phydru yn eu dannedd, ond weithiau bydd yn anos i’r rheini sy’n dioddef ohono gael triniaeth.
Bu ymchwilwyr o Uned Gwybodaeth Iechyd Geneuol Cymru yn Ysgol Deintyddiaeth Prifysgol Caerdydd yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol y GIG i asesu iechyd geneuol mwy na 6,000 o blant ysgol ym mlwyddyn 7 (11-a 12 oed) ledled Cymru. Mae hyn yn rhan o raglen reolaidd goruchwylio iechyd y geg.
Mae pydredd dannedd yn broblem iechyd - ond ar ben hynny weithiau bydd yn achosi poen ac yn effeithio ar allu plant i ganolbwyntio yn yr ysgol, ymwneud â ffrindiau a mwynhau eu plentyndod. Bydd plant sy’n dechrau yn yr ysgol uwchradd eisoes wedi cael rhai o’u hail ddannedd, ac weithiau bydd gan bydru yn y dannedd yn yr oed yma oblygiadau arhosol i iechyd y geg yn ystod eu bywyd.
Mae'r arolwg hwn yn rhoi'r wybodaeth fwyaf cynhwysfawr ynghylch iechyd y geg plant oedran ysgol uwchradd yng Nghymru ers y pandemig. Peth calonogol yw bod nifer y plant sy'n dechrau'r ysgol uwchradd heb bydredd dannedd wedi codi.
Yn 2008/09, roedd pydredd dannedd wedi effeithio ar 13 o blant o ddosbarth o 30. Yn 2023/24 roedd hyn wedi gostwng i lai nag 8. Er bod hyn yn newyddion da, roedd arolwg wedi canfod bod y rhan fwyaf o’r pydredd yn parhau heb driniaeth a bod y niferoedd mewn ardaloedd difreintiedig ddwywaith yn uwch na’r ardaloedd mwyaf cefnog. Y gobaith yw y bydd cynlluniau megis adnoddau BRIGHT yn helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb deintyddol ledled Cymru, ond mae’n rhaid gwneud mwy.
Er hynny, mae heriau sylweddol gyda ni o hyd. Mae llawer o blant, yn enwedig yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig, yn dioddef o bydredd heb ei drin yn eu hail ddannedd - dannedd y mae eu hangen i bara am oes.
Mae llai na hanner y plant yng Nghymru wedi gweld deintydd y GIG yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Dylai gwella mynediad at ofal deintyddol o safon i grwpiau sy’n agored i niwed megis plant fod yn flaenoriaeth wrth symud ymlaen. Mae arferion beunyddiol yn chwarae rhan hollbwysig wrth amddiffyn plant rhag pydredd dannedd. Mae cyfyngu diodydd a byrbrydau llawn siwgr, a chyfuniad o arferion brwsio dannedd cyson, yn rhoi’r amddiffyniad gorau rhag pydredd dannedd.
Gwybodaeth ddefnyddiol
- Mae Uned Gwybodaeth Iechyd Geneuol Cymru (WOHIU) yn gweithio gyda Chydlynydd Epidemioleg Ddeintyddol Cymru Iechyd Cyhoeddus Cymru i gynllunio a chyflwyno Rhaglen Epidemioleg Ddeintyddol GIG Cymru.
- Mae’r Uned yn rhoi cyngor proffesiynol annibynnol, yn dadansoddi ac yn adrodd ar ddata ac yn sicrhau sicrwydd ar gyfer Rhaglen Epidemioleg Ddeintyddol GIG Cymru.
- Mae Ysgol Deintyddiaeth Prifysgol Caerdydd yn gwneud ymchwil o safon sy’n cael effaith ac yn mynd i'r afael â heriau byd-eang allweddol sy’n ymwneud ag iechyd y geg ac iechyd cyffredinol.