Stephen Fry yn dychwelyd i Brifysgol Caerdydd
9 Tachwedd 2017

Yn gynharach yr wythnos hon, daeth Stephen Fry - un o actorion, awduron a digrifwyr gorau’r DU - draw i weld staff a myfyrwyr yn Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl Prifysgol Caerdydd i gael gwybod rhagor am yr ymchwil ddiweddaraf sy’n cael ei chynnal yn y ganolfan arloesol.
Ac yntau’n Noddwr, mae Stephen yn awyddus i hyrwyddo gwaith y Sefydliad ac mae’n defnyddio ei broffil cyhoeddus ac ym myd y cyfryngau i geisio chwalu’r stigma sy’n aml yn gysylltiedig â phobl sydd ag anawsterau iechyd meddwl. Yn rhan o’i raglen ddogfen a gynhyrchwyd yn 2006 -The Secret Life of the Manic Depressive - aeth i weld yr Athro Nick Craddock a’i dîm i drafod y cyflwr yn ogystal â chymryd rhan yn yr astudiaeth ymchwil fwyaf erioed am anhwylder deubegynol.
Yn ystod ei ymweliad diweddaraf, aeth Stephen i weld Cyfarwyddwr Emeritws y Sefydliad, yr Athro Syr Mike Owen, a rhai o’i ymchwilwyr blaenllaw i glywed am eu gwaith ymchwil diweddaraf yn y maes hwn. Daeth yr ymweliad i ben gyda sgwrs gyda Ben Lewis, Cyfarwyddwr Cefnogi a Lles Myfyrwyr. Ac yntau’n un o gyfeillion Prifysgol Caerdydd, ac yn awyddus i hyrwyddo lles myfyrwyr yn fwy cyffredinol, dysgodd Stephen ragor am fodel cefnogi myfyrwyr y Brifysgol sy’n arwain y sector.

Ailbwysleisiodd Stephen y ffaith ei fod yn Noddwr Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl a mynegodd ar goedd ei gefnogaeth ar gyfer y gwasanaeth cefnogi a lles a gynigir i fyfyrwyr yng Nghaerdydd. Dywedodd: "Mae fy mherthynas â Chaerdydd yn golygu llawer i mi, ac mae wedi bod yn bleser cael y cyfle i ymweld eto a gweld hen wynebu, yn ogystal â chwrdd â rhai newydd..."
"Mae'n amlwg i mi fod Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl Prifysgol Caerdydd, a’i wasanaeth Lles a Chefnogi Myfyrwyr, yn enghreifftiau rhagorol sy’n arwain y sector, ac rydw i’n falch iawn o’u cynrychioli."
Dywedodd yr Athro Syr Mike Owen: "Rydym yn ddiolchgar iawn am barodrwydd Stephen i gefnogi’r Sefydliad yn gyhoeddus. Mae hwn yn faes ymchwil blaenllaw yng Nghaerdydd ac yn un o’r meysydd y mae’r Brifysgol wedi’i nodi fel blaenoriaeth ar gyfer codi arian ar ei gyfer. Felly, mae’r sylw y mae Stephen yn ei roi i’n hymdrechion yn amhrisiadwy ac yn hwb gwirioneddol wrth i ni geisio mynd i'r afael â rhai o'r heriau mwyaf sy'n wynebu iechyd a lles byd-eang yn yr 21ain ganrif."