Timau rygbi gorau’r byd yn hyfforddi yn un o gampfeydd y Brifysgol
7 Tachwedd 2017
![Australia rugby team](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0006/999627/aus1.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Bydd rhai o'r dimau Rygbi’r Undeb gorau yn y byd yn hyfforddi yng nghampfa fodern newydd Prifysgol Caerdydd, cyn y gyfres o gemau rhyngwladol yr hydref 2017.
Bydd Cymru’n chwarae Seland Newydd, Awstralia, De Affrica a Georgia yn Stadiwm Principality Caerdydd ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr.
Bydd y pedwar tîm sy’n ymweld yn paratoi ar gyfer eu gemau yn y Ganolfan Ffitrwydd a Datblygiad Corfforol wedi’i hailwampio. Ailagorodd ar Ffordd Senghennydd mewn pryd ar gyfer tymor 2017/18 y Brifysgol.
Mae'r Ganolfan yn cynnig tri llawr ag offer cardiofasgwlaidd, offer ymwrthedd ac offer sy’n seiliedig ar bwysau, gan gynnwys llawr uchaf sydd bellach yn unswydd ar gyfer hyfforddi ym meysydd cryfder a datblygiad corfforol.
Mae timau gorau hemisffer y de eisoes wedi hyfforddi yn y Ganolfan Ffitrwydd a Datblygiad Corfforol ym Mhlas y Parc o flaen gemau rhyngwladol yr hydref.
Rhoddwyd prawf ar allu’r Crysau Duon yno hefyd cyn eu gêm cyn-derfynol gyda De Affrica yn 2015.
Bydd timau, bellach, yn defnyddio'r Ganolfan Ffitrwydd a Datblygiad Corfforol wedi’i ailwampio, yn dilyn trawsnewid ei holl gyfleusterau blaenorol dros yr haf.
Yn ôl y Pennaeth Chwaraeon, Stuart Vanstone: “Mae gennym berthynas hirdymor â thimau teithiol sy'n ymweld â’r ddinas i chwarae yn erbyn Cymru yn ystod ymgyrch yr hydref. Mae pob tîm wedi defnyddio ein cyfleusterau yn y gorffennol ar wahân i Georgia – hwn fydd y tro cyntaf iddynt gael croeso Prifysgol Caerdydd!
“Mae’r Ganolfan Ffitrwydd a Datblygiad Corfforol, sydd wedi’i hailwampio ac sy’n cynnwys ein hystafell cryfder a datblygiad corfforol, wedi’i llunio mewn modd a fydd o wasanaeth i athletwyr gorau’r byd. Rwy’n siŵr y bydd y timau teithiol yn mwynhau eu sesiynau gyda ni.”
Dyma gemau’r hydref hwn: 11 Tachwedd, Cymru v Awstralia; 18 Tachwedd, Cymru v Georgia; 25 Tachwedd, Cymru v Seland newydd; 2 Rhagfyr, Cymru v De Affrica.
Mae’r Ganolfan Ffitrwydd a Datblygiad Corfforol ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 06:45 a 21:00, a rhwng 10:00 ac 18:00 ar ddydd Sadwrn a dydd Sul.