Delweddau Arddangosfa yn dod â Phoenix yn fyw
7 Tachwedd 2017
Mae gwaith arloesol i wella iechyd a lleihau tlodi yn Namibia yn cael ei amlygu mewn arddangosfa ffotograffig newydd.
Mae Prosiect Phoenix, partneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Namibia, wedi cael effaith sylweddol ar y wlad ers ei lansio yn 2014.
Mae’r arddangosfa yn Oriel Gelf Genedlaethol Namibia (NAGN) yn Windhoek ar agor o 10 Tachwedd 2017 tan 18 Chwefror 2018 a’i nod yw ceisio dod â rhywfaint o’r gwaith trawsnewidiol yn fyw.
Mae'n dilyn arddangosfa ffotograffig gan Brosiect Phoenix yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yng Nghaerdydd yn gynharach eleni, ond mae’r arddangosfa hon yn wahanol ac wedi cael ei churadu’n benodol ar gyfer Namibia.
Un o’r themâu allweddol yw pŵer ieuenctid Namibia ym meysydd gwyddoniaeth, iechyd a datblygiad cenedlaethol.
Mae iechyd hefyd yn cael lle amlwg - gan gynnwys iechyd y galon, anesthesia, gofal critigol ac ymateb cyntaf mewn gofal trawma, meysydd lle bu Prosiect Phoenix yn chwarae rhan amlwg.
Bydd yr arddangosfa, sy’n cynnwys delweddau gan ffotograffydd Phoenix, Paul Crompton, yn cael ei hagor yn swyddogol gan Lazarus Hangula, Is-ganghellor UNAM, am 18:00 ar 9 Tachwedd.
Dywedodd arweinydd y prosiect, yr Athro Judith Hall: "Drwy weithio law yn llaw â Phrifysgol Namibia, mae Phoenix yn cael effaith wirioneddol, felly rwy’n eithriadol o falch bod gennym arddangosfa sy’n rhoi blas i bobl ar yr hyn sy’n gwneud y prosiect mor arbennig.
"Un o brif themâu yr arddangosfa yw pŵer ieuenctid - pŵer y gallwn ei harneisio, fel sydd eisoes wedi digwydd, ac a fydd yn parhau wrth i ni symud ymlaen. Bydd egni, daioni a menter pobl ifanc yn gwella pethau i bawb yn Namibia..."
Dywedodd yr Athro Hangula: "Mae Prosiect Phoenix yn enghraifft berffaith i ddangos bod modd cydweithio rhwng y de a’r gogledd, a hefyd fod modd i’r cydweithio hwnnw fod yn llwyddiannus iawn yn ogystal."
Yn ôl Ndeenda Shivute, o Oriel Gelf Genedlaethol Namibia: “Mae’r arddangosfa nid yn unig yn arf i arddangos y gwaith da a wnaeth y prosiect yn Namibia, ond mae'n arf addysgol gwych hefyd ar gyfer yr ymwelwyr amrywiol i Oriel Gelf Genedlaethol Namibia. Mae hwn yn esiampl wych o sut y gall y celfyddydau a’r gwyddorau gydweithio, a’n gobaith yw y bydd hyn yn ddechrau ar lawer o brosiectau ar y cyd.”
Dywedodd Mr Crompton: "Bu'n fraint cofnodi gwaith Prosiect Phoenix. O’r dysgwyr yn Keetmanshoop i’r meddygon ifanc yn Rundu, mae awydd y bobl ifanc hyn o Namibia i dyfu, dysgu, a gwneud gwahaniaeth i’w gwlad wedi creu cymaint o argraff arna i.
"Rwy'n gobeithio fy mod wedi llwyddo i gyfleu rhyw ymdeimlad o hynny yn y delweddau sydd i’w gweld yn yr arddangosfa."
Cyhoeddodd Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Colin Riordan, ym mis Mawrth eleni y byddai'r Brifysgol yn parhau i ariannu Phoenix am gyfnod pellach o bum mlynedd, tan o leiaf 2022.
Mae gwaith y prosiect yn cyd-fynd â Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig, gan gynnwys tlodi, iechyd a llesiant, ac addysg.
Mae Phoenix yn rhan o raglen Trawsnewid Cymunedau Prifysgol Caerdydd, sy’n gweithio gyda chymunedau yng Nghaerdydd, Cymru a’r tu hwnt.