Prifysgol yn ceisio 'tanio brwdfrydedd mewn gwyddoniaeth' ymhlith disgyblion
7 Mai 2015
Tanio brwdfrydedd mewn gwyddoniaeth yw'r nod wrth i Brifysgol Caerdydd groesawu 40 o fyfyrwyr o 10 ysgol yn ne Cymru fel rhan o ŵyl gemeg deithiol.
Bydd timau o ddisgyblion 11 i 13 oed o bob ysgol yn cymryd rhan mewn cyfres o weithgareddau ymarferol yn yr Ysgol Cemeg ddydd Iau, 14 Mai.
Mae Gŵyl Gemeg Salters, sy'n ymweld â phrifysgolion a cholegau ledled y DU ac Iwerddon, wedi cael ei chynnal ers 1991.
Y nod yw gwneud cemeg yn fwy cyffrous, perthnasol a difyr i bobl ifanc, ac annog ysgolion i sefydlu eu clybiau cemeg eu hunain.
Meddai Dr Simon Pope, o'r Ysgol Cemeg: "Mae'r ŵyl yn gyfle unigryw a chyffrous i blant 11 i 13 oed gael profiad ymarferol o gemeg mewn labordy sydd â'r cyfarpar diweddaraf.
"Rydym bob amser yn gobeithio y gall ysgogi diddordeb a brwdfrydedd mewn gwyddoniaeth fydd yn para trwy gydol eu blynyddoedd o addysg a thu hwnt."
Yn ystod y bore, bydd y timau'n cymryd rhan mewn gweithgaredd cystadleuol ac ymarferol drwy ddefnyddio eu sgiliau cemeg dadansoddol.
Yn y prynhawn, byddant yn cystadlu i ddatblygu ystod newydd o baent drwy ddefnyddio toddiant llifo cyffredinol a gwahanol amodau pH. Y tîm sy'n creu'r ystod orau o liwiau fydd yn fuddugol.
Wedi hynny, bydd Dr Dayna Mason o'r Gymdeithas Gemeg Frenhinol a Chydlynydd Rhanbarthol Cymru yn cynnal cwis gwyddoniaeth rhyngweithiol a llawn hwyl.
Menter gan Sefydliad Salters yw Gwyliau Cemeg Salters. Eu nod yw hyrwyddo gwerthfawrogiad o gemeg a'r gwyddorau cysylltiedig ymhlith pobl ifanc, ac annog gyrfaoedd addysgu cemeg ac yn y diwydiannau cemegol a rhai cysylltiedig yn y DU.
Ychwanegodd Dr Pope: "Mae Ysgol Cemeg Prifysgol Caerdydd yn hynod falch o gynnal un o Wyliau Cemeg blynyddol Salters.
"Rydym wedi bod yn cydweithio â Sefydliad Salters ers dros ddegawd, ac rydym wedi croesawu nifer fawr o ysgolion, myfyrwyr ac athrawon o bob cwr o dde Cymru yn ystod y cyfnod hwn."