Hanesydd o Brifysgol Caerdydd ar Restr Fer Gwobr Whitfield 2014
7 Mai 2015
Mae hanesydd o Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd y Brifysgol wedi cael ei enwi ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Whitfield, sef gwobr arobryn gan y Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol, ac un o'r gwobrau llyfr mwyaf ei bri ar gyfer haneswyr ar ddechrau eu gyrfaoedd.
Mae chwech ar restr fer 2014, gan gynnwys 'The King's Irishmen: The Irish in the Exiled Court of Charles II, 1649-1660' gan Dr Mark R. F. Williams [Boydell & Brewer].
Dyfernir Gwobr Llyfr Whitfield, sef gwobr ariannol o £1,000, am lyfr newydd ar hanes Prydain neu Iwerddon.
Dim ond llyfr cyntaf ar bwnc mewn maes yn hanes Prydain neu Iwerddon, a gyhoeddwyd yn Saesneg yn 2014, sy'n gallu ennill y wobr. Rhaid i'r gwaith fod yn ymchwil hanesyddol ysgolheigaidd a gwreiddiol hefyd, a'r llyfr cyntaf i'r awdur ei ysgrifennu ar ei ben ei hun.
Mae Gwobr Whitfield yn un o naw gwobr a ddyfernir bob blwyddyn gan y Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol. Fe'i sefydlwyd ym 1976 yn rhodd gan yr Athro Archibald Stenton Whitfield, Cymrawd y Gymdeithas o fis Mehefin 1916 hyd at ei farwolaeth ym 1974.
Cyhoeddir enillydd 2014 ar 1 Gorffennaf yn Llundain mewn derbyniad ar ôl Darlith Prothero.
Mae llyfr cyn-academydd o Brifysgol Caerdydd, Dr Richard A Marsde, o'r enw 'Cosmo Innes and the Defence of Scotland's Past, c.1825-1875' [Ashgate] ar y rhestr fer hefyd.