'Magna Carta' i lawfeddygon yn rhoi tystiolaeth gadarn wrth wraidd penderfyniadau
7 Tachwedd 2017
Mae penaethiaid cyrff proffesiynol yn y DU ar gyfer meddygaeth, addysgu a phlismona wedi cofrestru a chyhoeddi 'Magna Carta' ar gyfer tystiolaeth – gan roi lle canolog i dystiolaeth yn eu sefydliadau.
Mae Academi'r Colegau Meddygol Brenhinol, y Coleg Addysgu Siartredig, a'r Coleg Plismona wedi cyhoeddi'r datganiad gyda'r nod o ymgorffori ei phrif egwyddorion o fewn eu sefydliadau.
Cynhaliwyd y digwyddiad llofnodi gan y Gynghrair ar gyfer Tystiolaeth Ddefnyddiol a'r Athro Jonathan Shepherd CBE o Brifysgol Caerdydd, sy'n aelod o Goleg Brenhinol y Llawfeddygon.
Lluniwyd y siarter gan yr Athro Shepherd a chafodd ei gytuno gan y Colegau, ac mae'n cynnwys y canlynol:
"Mae tystiolaeth ar gyfer yr hyn sy'n gweithio a'r hyn nad yw'n gweithio wedi, drwy broses mentro a methu ffurfiol ar draws yr holl broffesiynau a gwasanaethau cyhoeddus, dod yn sail i ymarfer proffesiynol. Yn yr un modd, mae nifer o ymyriadau sydd heb eu profi yn gallu gwneud mwy o niwed na lles, ac maent yn gwastraffu adnoddau cyhoeddus a phreifat.
Mae Academi'r Colegau Meddygol Brenhinol, y Coleg Plismona a'r Coleg Addysgu Siartredig, felly, fel arweinwyr ein proffesiynau, yn datgan bod ein sefydliadau'n disgwyl i'r holl aelodau roi ystyriaeth lawn i dystiolaeth a chanllawiau sydd wedi eu seilio ar dystiolaeth yn eu penderfyniadau dyddiol a'u cyngor i unigolion a sefydliadau.
At hynny, gan fod angen i effeithiolrwydd a chost a budd polisïau ac ymyriadau newydd gael eu profi, rydym yn datgan hefyd bod ein sefydliadau'n disgwyl ac yn cefnogi gwerthusiadau trylwyr. I'r perwyl hwn, byddwn yn sicrhau bod yr egwyddorion hyn yn cael eu hadlewyrchu'n briodol yn ein gwerthoedd, cyfansoddiadau neu amodau aelodaeth".
Ychwanegodd yr Athro Jonathan Shepherd: "Mae cyrff proffesiynol yn cael dylanwad mawr ar arferion dyddiol cannoedd o filoedd o weithwyr proffesiynol ledled y DU sy'n aelodau ac yn gymrodyr..."
Cafodd y digwyddiad ei gadeirio gan yr Arglwydd O'Donnell, a'r prif siaradwyr oedd yr Athro Fonesig Alison Peacock, Prif Weithredwr y Coleg Addysgu Siartredig; yr Athro Carrie MacEwen, Cadeirydd Academi'r Colegau Meddygol Brenhinol; a'r Prif Gwnstabl Ian Hopkins, Bwrdd y Coleg Plismona.