Darganfod rhywogaeth newydd o epaod mawr yn Indonesia
2 Tachwedd 2017
Mae ymchwil ar y cyd gan dîm rhyngwladol sy’n cynnwys ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd wedi darganfod rhywogaeth newydd o orangwtangiaid yn Indonesia.
Cafwyd hyd i Pongo Tapanuliensis, neu’r Orangwtang Tapanuli, yn nhair ardal Tapanuli yng Ngogledd Sumatra ar ôl cynnal dadansoddiad manwl o’r epaod sy’n byw yn Ecosystem Batang Toru.
Yn ôl Dr Benoît Goosens o Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd: "Dim ond yn gymharol ddiweddar, ym 1997, y cafodd poblogaethau Batang Toru o orangwtangiaid eu hailddarganfod yn Sumatra.
"Fodd bynnag, ni ddaeth ymchwilwyr o hyd i sgerbwd oedolyn gwrywaidd orangwtang tan 2013 a oedd wedi’i ladd yn ystod gwrthdaro. Fe wnaethom sylweddoli bryd hynny bod yr epaod hyn yn wahanol iawn o ran agweddau corfforol a geneteg.
"Drwy gymharu’r penglog ag orangwtangau eraill, roedd yn amlwg bod y penglog yn dangos gwahaniaethau arwyddocaol. Roedd hyn yn awgrymu y gallai poblogaeth y Batang Toru fod yn unigryw. Felly, aeth ein tîm rhyngwladol o ymchwilwyr ati i gydweithio i ddod o hyd i ragor o dystiolaeth."
Roedd y tîm rhyngwladol o ymchwilwyr cydweithredol yn cynnwys cynrychiolwyr o Raglen Gwarchod Orangwtangau Sumatra, awdurdodau Indonesia, Prifysgol Genedlaethol Awstralia a Phrifysgol Caerdydd. O dan arweiniad yr Athro Michael Krützen o Brifysgol Zürich, llwyddodd y tîm i bennu gwahaniaethau genetig unigryw yr epaod drwy ymgymryd â’r astudiaeth fwyaf erioed o enomeg orangwtaniaid.
Meddai’r Athro Michael Krützen: "Wrth i ni sylweddoli bod orangwtaniaid Batang Toru yn wahanol i bob math arall o orangwtang, daeth popeth yn glir i ni..."
Drwy ddefnyddio technoleg ailfodelu ar gyfrifiaduron, ail-grewyd hanes poblogaeth y tair rhywogaeth o orangwtaniaid, a dangoswyd bod epaod Batang Toru wedi’u hynysu am rhwng 10,000 ac 20,000 o flynyddoedd.
Yn ôl Dr Pablo Orozco-ter Wengel o Brifysgol Caerdydd: “Cawsom ein synnu gan y gwahaniaeth rhwng orangwtaniaid Tapanuli a’r ddwy rywogaeth arall o orangwtaniaid.
"Dangosodd bod y gwahaniaeth rhwng y rhywogaeth hyn yn mynd yn ôl cymaint â 3 miliwn o flynyddoedd, a bod yr orangwtaniaid i’r de o Toba yn debycach i orangwtaniaid Borneo, nag orangwtaniaid i’r gogledd o Toba."
Gyda hyd at 800 yn unig ohonynt yn weddill, mae’r rhywogaeth newydd o orangwtaniaid erbyn hyn yn cael eu hystyried y rhywogaeth o epaod mawr sydd fwyaf o dan fygythiad ar y blaned.
Yn ôl Dr Goosens: "Mae'n gyffrous sôn am rywogaeth newydd o epaod mawr yn yr 21ain ganrif. Fodd bynnag, o ystyried cyn lleoedd o orangwtaniaid Batang Toru sydd ar ôl, mae’n hanfodol ein bod yn mynd ati i’w gwarchod.
"Mae'n hanfodol ein bod yn gweithio i warchod y goedwig. Os na fyddwn yn cymryd y camau sydd eu hangen i warchod Orangwtaniaid Tapanuli, gallen nhw ddiflannu flynyddoedd yn unig ar ôl iddynt gael eu darganfod."