Angen i weithwyr Cymru feddu ar sgiliau newydd i fanteisio ar swyddi yn y dyfodol
1 Tachwedd 2017
Mae’r defnydd cynyddol o ddeallusrwydd artiffisial a roboteg am newid yn sylweddol y mathau o swyddi sydd ar gael yng Nghymru dros yr 20 mlynedd nesaf yn ôl adroddiad newydd gan academyddion o Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae adroddiad Dyfodol Gwaith yng Nghymru yn awgrymu y gall technoleg newydd wella cynhyrchiant a rhyddhau gweithwyr o dasgau ailadroddus neu beryglus ond gallai hefyd arwain at waredu nifer fawr o swyddi a newid arferion cyflogaeth mewn ffyrdd sy’n anfanteisio gweithwyr anfedrus. Mae’r adroddiad yn dadlau y dylid rhoi cymorth i weithwyr Cymru i’w helpu i feithrin sgiliau sy’n anodd eu gwneud yn waith awtomeiddiedig, fel meddwl yn greadigol ac yn feirniadol, y bydd galw mawr amdanynt yn economi ddigidol y dyfodol.
Dywedodd yr Athro Steve Martin, Cyfarwyddwr Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru: "Canfu ein hadroddiad y gallai deallusrwydd artiffisial drawsnewid y byd gwaith yng Nghymru.
"Ysgrifennwyd llawer am dueddiadau byd-eang, ond mae angen i chi feithrin dealltwriaeth well o sut y bydd datblygiadau technolegol yn effeithio ar economi Cymru fel y gallwn baratoi at ddyfodol lle gallai rhai swyddi fod yn wahanol iawn i heddiw..."
Cynhelir digwyddiad i lansio’r adroddiad ddydd Mercher 1 Tachwedd ym Mhrifysgol Caerdydd.
Bydd y siaradwyr yn ystyried dyfodol gwaith yng Nghymru a’r cyfleoedd a’r heriau i lywodraeth, ysgolion, cyngor ar yrfaoedd a chyflogwyr.
Mae'r siaradwyr yn cynnwys:
- Prif Weinidog Cymru, y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC
- Matthew Taylor, Prif Weithredwr Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau (RSA) ac awdur ‘Good work: the Taylor review of modern working practices’’ a gomisiynwyd gan Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, fydd yn siarad am raglen RSA ar Weithio yn y Dyfodol
- Stijn Broecke, Uwch Economegydd Cyflogaeth, Llafur a Materion Cymdeithasol yn y Sefydliad er Cydweithredu a Datblygu Economaidd (OECD), a fydd yn siarad am raglen ymchwil ar waith yn y dyfodol yr OECD.