Ewch i’r prif gynnwys

Brennig yn achub bywydau

2 Tachwedd 2017

Pembrokeshire coast

Mae cwmni biodechnoleg o Gymru yn gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd i astudio dau fioddeunydd sydd gan frennig wystrys a allai achub bywydau.

Mae Mikota yn gweithio gyda dau grŵp academaidd yn y Brifysgol i archwilio'r proteinau a geir yn y malwod môr.

Credir bod brennig wystrys wedi cyrraedd Cymru ar gyrff llongau o’r Unol Daleithiau yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Maent yn cynnwys colagen a hemocyanin. Mae posibiliadau i’r cyntaf o ran trin canser y fron a’r bledren, a gellir defnyddio’r ail mewn meddygaeth adnewyddol, megis trwsio’r esgyrn a’r nerfau.

Dywedodd Alex Mühlhölzl, Prif Weithredwr Mikota: "Mae colagen ym mhob organeb fyw, fwy neu lai, ond yr hyn sy’n wahanol am y colagen morol o’r brennig wystrys yw ei fod yn sefydlog ar draws ystod o dymereddau, yn yr un modd â’r colagen sy’n dod o fuchod, moch a bodau dynol. Mae'r rhan fwyaf o greaduriaid môr yn byw mewn amgylcheddau llawer oerach na’r corff dynol, felly hyd yma yr unig ffynonellau thermol sefydlog ar gyfer colagen oedd moch, gwartheg a mamaliaid eraill.

"Yn ogystal â bod yn ddefnyddiol ynddo’i hun i arafu twf tiwmor, mae hemocyanin hefyd yn cynorthwyo proteinau. Mae hynny’n golygu ei fod yn rhwymo’i hun wrth feddyginiaethau eraill, fel bod y corff yn gallu eu canfod yn haws.”

Dywedodd Dr Mark Young, arweinydd Academaidd y Canolbwynt Technoleg Protein yn Ysgol y Biowyddorau, Prifysgol Caerdydd, a phartner Caerdydd ar y prosiect BioCyanin: "Mae gweithio gyda Mikota yn cynrychioli cyfle gwych i’r Ganolfan Protein ddatblygu cysylltiadau agosach gyda diwydiant ar brosiect sy’n cael effaith ym meysydd biodechnoleg a chadwraeth morol.

"Mae Mikota yn ariannu lleoliad Blwyddyn o Hyfforddiant Proffesiynol ar gyfer Emily Lewis, myfyriwr israddedig yn Ysgol y Biowyddorau, sy'n gweithio yn y Canolbwynt, yn puro ac yn canfod nodweddion BioCyanin, gan gaffael sgiliau a phrofiad gwerthfawr trwy weithio mewn lleoliad academaidd a diwydiannol."

Dr Mark Young Rhaglenni Arwain, Ôl-raddedig a Addysgir

Mae Dr Peter Watson a Dr Iwan Palmer yn aelodau o’r Rhwydwaith Celtaidd ar gyfer Arloesedd yn y Gwyddorau Bywyd Uwch (CALIN), rhaglen ar y cyd gan Gymru ac Iwerddon sy’n cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru. Mae CALIN yn cyfuno arbenigedd, mynediad at dechnolegau sy’n dod i’r amlwg a llwybrau i’r farchnad er mwyn cefnogi busnesau yn y rhanbarthau.  Nod Dr Watson a Dr Palmer yw helpu i nodweddu a datblygu Maricoll, y colagen a burwyd o’r brennig, at gymwysiadau biofeddygol.

Dywedodd Dr Watson: "Bu colagen o ddiddordeb erioed ym maes bioddeunyddiau a dyfeisiau meddygol, ac mae'r diddordeb hwnnw’n parhau i dyfu, gan fod sawl cynnyrch clinigol sy’n cynnwys colagen bellach ar y farchnad..."

"Mae deall priodweddau’r colagen hwn, sy’n dod o ffynhonnell forol, a’r ffordd orau o ddefnyddio’r priodweddau hynny ym maes meddygaeth, yn faes ymchwil newydd, cyffrous ym Mhrifysgol Caerdydd."

Yr Athro Peter Watson Cyfarwyddwr Addysg Ôl-raddedig, Athro, Arweinydd academaidd cyfleusterau delweddu, Cydlynydd Addysgu Ymchwil Ôl-raddedig

Rhannu’r stori hon

Mae gan yr Ysgol enw da ar lefel ryngwladol am ei haddysgu a’i hymchwil, ac mae’n cynnig rhai o’r cwricwla biowyddorau gorau yn y DU sy’n cael ei arwain gan ymchwil