Ysgol yn croesawu sylwebyddion y cyfryngau Arabaidd i Gaerdydd
27 Hydref 2017
Croesawodd yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol Fforwm Sylwebyddion Arabaidd y DU i Gaerdydd am y tro cyntaf ddydd Mercher, 25 Hydref 2017.
Cyrhaeddodd y cynrychiolwyr ar gyfer tridiau o weithdai, paneli, a theithiau tywys o amgylch sefydliadau gwleidyddol a newyddion Caerdydd, gan gynnwys y Senedd ac ITV Wales.
Trefnwyd yr wythnos o ddigwyddiadau gan y Swyddfa Dramor a'r Gymanwlad (FCO). Dechreuodd yn Llundain, gyda’r grŵp yn cwrdd â Gweinidog Gwladol FCO Alistair Burt AS.
Aeth y gweithdai i’r afael ag ystod eang o heriau digidol y mae sylwebyddion newyddiaduraeth a’r cyfryngau yn eu hwynebu ledled y byd, yn enwedig yn y Dwyrain Canol.
Dywedodd yr Athro Richard Sambrook, a arweiniodd gweithdai Caerdydd: “Mae’r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol â thraddodiad balch o fynd i’r afael â heriau newyddiaduraeth, cyfryngau, a chyfathrebu rhyngwladol drwy ein hymchwil a’n haddysgu.
"Drwy feithrin y partneriaethau a’r rhwydweithiau byd-eang newydd hyn, rydym yn falch o gefnogi amcanion Fforwm Sylwebyddion Arabaidd y DU cyntaf yr FCO.
“Dangosodd y cynrychiolwyr frwdfrydedd mawr ac fe wnaethant ymgysylltu’n galonnog â nifer o faterion cymhleth a oedd yn cyfuno newyddiaduraeth, gwleidyddiaeth, a diwylliant.”
Tra oeddent yng Nghaerdydd, mynychodd y cynrychiolwyr ddarlithoedd a chymryd rhan mewn gweithdai, gan drafod atebolrwydd platfformau cyfryngau cymdeithasol, rheoleiddio’r wasg a darlledu yn y DU, datblygiad diwydiannau creadigol yng Nghymru, ffug newyddion, a sut mae’r DU yn addasu ei pholisi tramor wrth iddi baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd