Pam fod cleifion canser gydag anableddau sy’n bodoli’n barod, yn sôn nad ydynt yn cael cystal gofal?
26 Hydref 2017
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn archwilio’r rhesymau pam fod pobl sydd â namau corfforol yn cael mwy o broblemau i gael gafael ar ofal iechyd, mewn cymhariaeth â’r boblogaeth yn gyffredinol.
Bydd yr astudiaeth – sydd wedi’i hariannu gan Ofal Canser Tenovus – yn edrych ar brofiadau pobl anabl ledled Cymru sydd wedi cael diagnosis am ganser y gellir o bosibl ei wella, a chael triniaeth ar gyfer y canser hwnnw.
Yn ôl Dr Dikaios Sakellariou o Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Caerdydd: "Mae tystiolaeth bod cleifion canser sydd â namau corfforol hirdymor yn sôn nad ydynt yn cael cystal gofal, ond nid yw'r rhesymau dros hyn yn glir..."
Caiff y wybodaeth a gasglwyd gan yr ymchwilwyr ei defnyddio lywio'r gwaith o gynllunio gwasanaethau a chreu deunydd hyfforddi, i helpu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i fod yn fwy ymwybodol a sensitif i effaith gyfunol anabledd a chanser. Hefyd, bydd recriwtio cyfranogwyr ledled Cymru, ym mhob Canolfan Canser, yn gwneud y boblogaeth hon o gleifion canser yn fwy amlwg.
Er bod ambell astudiaethau wedi cynnig adroddiadau ar brofiadau sgrinio, diagnosis a thriniaeth canser i bobl anabl, roedd yr astudiaethau hynny’n ffocysu ar fathau penodol o ganser, neu namau corfforol penodol. Yn ogystal, ni chynhaliwyd unrhyw un o'r astudiaethau hyn yn y DU, ac nid oedd yn fwriad gan un ohonynt i ddatblygu deunydd hyfforddi, neu gydweithio â chleifion wrth ddatblygu ffyrdd o ddarparu gwasanaethau. Mewn cyferbyniad, bydd yr astudiaeth newydd yn datblygu dealltwriaeth o brofiad pobl o ofal canser, yn archwilio eu blaenoriaethau a'r heriau y maent yn eu hwynebu, â hynny’n berthnasol i bob nam corfforol, a mathau o ganser.
Mae'r tîm ymchwil yn recriwtio drwy gyfrwng y gymuned ar draws Cymru gyfan, gyda chanolfannau yng Nghaerdydd, Abertawe a Bangor. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r tîm ar: sakellarioud@caerdydd.ac.uk