Gwneud mwy na gweiddi
25 Hydref 2017
Sut i dorri arferion sefydledig haerllugrwydd a pholareiddio mewn trafodaeth gyhoeddus
Bydd athronwyr, ieithyddion a seicolegwyr cymdeithasol yn cynnig ymyriadau i leihau dylanwad haerllugrwydd a pholareiddio mewn cynhadledd ryngwladol yn ystod yr Hydref.
O ganlyniad i ymchwil prosiect newydd bydd yr academyddion yn trafod haerllugrwydd, dogmatiaeth ac ymddygiad ymosodol mewn dadl yn y Brifysgol Newid agweddau mewn Trafodaethau Cyhoeddus.
Mae barn wleidyddol mewn sawl democratiaeth Orllewinol yn dangos arwyddion o bolareiddio cynyddol. Mae hyn yn cyd-daro â newid naws mewn dadleuon. Yn ôl pob golwg, mae ymddygiadau trahaus fel gweiddi, gwawdio, diystyru neu dorri ar draws pobl eraill yn anghwrtais yn ystod trafodaethau yn digwydd yn fwy aml ac yn eang yn ôl pob golwg.
Mae’r prosiect Newid Agweddau mewn Trafodaethau Cyhoeddus yn datblygu a phrofi ymyriadau ymarferol i leihau haerllugrwydd mewn trafodaethau. Sefydliad ac Ymddiriedolaeth Ddadansoddi John Templeton sy’n ariannu’r prosiect. Nod eu hymyriadau ymarferol, sydd wedi'u cynllunio i fynd i'r afael ag ymddygiad sydd wedi'i wreiddio mewn agweddau amddiffynnol, yw helpu pobl i gadarnhau eu hunanwerth drwy feddwl am y gwerthoedd sy'n bwysig iddynt. Mae'r prosiect yn dod ag arbenigwyr o feysydd athroniaeth, seicoleg ac Ieithyddiaeth ynghyd i lunio ac arbrofi gyda thechnegau i helpu i leihau natur amddiffynnol, gyda'r nod o arwain at leihau haerllugrwydd deallusol a chael mwy o wyleidd-dra mewn trafodaethau.
Ymhlith yr arbenigwyr sy’n cyflwyno papurau yn y gynhadledd mae’r athronwyr Andrew Aberdein (Athrofa Technoleg Florida), Adam J. Carter (Glasgow), Robin S. Dillon (Lehigh), Catarina Dutilh-Novaes (Groningen), Emma Gordon (Caeredin), Ian James Kidd (Nottingham) ac Alessandra Tanesini (Caerdydd).
Bydd y Seicolegwyr Leaf van Bowen (Colorado), Igor Grossmann (Waterloo), Steven J Spencer (Ohio State), Hahn (Birkbeck) Ulrike, Greg Maio (Bath) a Constantine Sedikides (Southampton) yn arwain sesiynau. Bydd Chris Heffer (Caerdydd) yn cynrychioli Ieithyddiaeth.
Mae’r gynhadledd yn cwmpasu amrywiaeth eang o bynciau cysylltiedig, ac yn dechrau gyda Vicious Attitudes gan y cyd-brif ymchwilydd, yr Athro Alessandra Tanesini. Mae’r papurau yn cynnwys Is Function a Fundamental Feature of Attitudes; Arrogance, Self-Respect, and Power: A Feminist Analysis; Arrogance and Deep Disagreement; The Socrates Effect: Teacher’s Mindset, Wisdom and Reasoning in a Polarized World; Dogmatism and Bullshit: A Discourse Analytic Perspective; Values and Openness to change ac Is Searching the Internet Making Us Intellectually Arrogant?
Mae Newid Agweddau mewn Trafodaethau Cyhoeddus yn un o ddeg o brosiectau ymchwil arloesol sy'n cael eu hariannu gan Sefydliad John Templeton drwy fenter Humility and Conviction in Public Life, sydd wedi'i lleoli ym Mhrifysgol Connecticut. Mae'r rhaglen hon yn chwilio am ffyrdd o feithrin ffyrdd iachach o gynnal dadleuon a sgyrsiau cyhoeddus, yn enwedig wrth gydbwyso dwy nodwedd amlwg mewn democratiaeth: gwyleidd-dra deallusol ac argyhoeddiad o gred.
Cynhaliwyd Arrogance and Polarization am ddau ddiwrnod (6/7 Tachwedd) yn y Brifysgol.
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y prosiect ar Twitter neu Facebook neu ewch i flog Open for Debate.