Yr Ymgyrch a Chaerdydd yn lansio pecyn adnoddau i gysylltu tystiolaeth â llunio polisi
25 Hydref 2017
Mae’r Brifysgol a’r Ymgyrch dros y Gwyddorau Cymdeithasol wedi cyd-weithio er mwyn datblygu pecyn adnoddau ar-lein i helpu ymchwilwyr i wella eu heffaith wleidyddol.
Mae 'Llwybrau at Effaith: canllaw ymarferol ar gyfer ymchwilwyr' yn cynnig arweiniad i gysylltu tystiolaeth y gwyddorau cymdeithasol yn agosach â’r broses lunio polisi, gan ganolbwyntio ar Lywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.
Pecyn adnoddau Llwybrau at Effaith yw’r adnodd ar-lein cyntaf o’i fath sy’n canolbwyntio ar Gymru. Dyma benllanw bron i flwyddyn o ymchwil, gan gynnwys cyngor ymarferol o gyfweliadau â llunwyr polisi Cymreig ac ymchwilwyr profiadol.
Gyda phedair thema eang: deall y cyd-destun a’r dirwedd wleidyddol; ymgysylltu â mwyhau effaith; hygrededd ac annibyniaeth; goresgyn rhwystrau, cyfres o argymhellion syml yn amlinellu sut mae sicrhau bod ymchwil yn sefyll allan ac y caiff ei rhoi ar waith gan weision sifil, seneddwyr, a Gweinidogion.
Dywedodd Dr Ashley Thomas Lenihan, Uwch-Gynghorydd Polisi yr Ymgyrch dros y Gwyddorau Cymdeithasol, ac awdur yr adroddiad: “Ceir yn aml ddiffyg cyfatebiaeth rhwng cyflenwad ymchwil a’r galw amdani ymysg llunwyr polisi. Golyga hyn fod perygl ein bod yn ateb cwestiynau cymhleth heb y dystiolaeth orau sydd ar gael, gyda chanlyniadau a all fod yn bellgyrhaeddol.
"Os ydym am fynd i’r afael ag unrhyw un o’r heriau rydym yn eu hwynebu yng Nghymru ac ar draws y DU, o gynhyrchiant i boblogaeth sy’n heneiddio, i’r pwysau ar y GIG a newid hinsawdd, bydd angen arnom sail dystiolaeth gadarn wrth wraidd llunio polisi. Mae mewnwelediad ac arbenigedd y gwyddorau cymdeithasol yn chwarae rhan ganolog wrth hwyluso hynny a mynd i’r afael â llawer o’r problemau hyn.
“Bydd pecyn adnoddau ‘Llwybrau at Effaith’ yr Ymgyrch dros y Gwyddorau Cymdeithasol yn helpu ymchwilwyr a gwneuthurwyr penderfyniadau fel ei gilydd i lywio’r broses gymhleth o sicrhau bod tystiolaeth yn cyrraedd y polisïau cywir. Ar yr un pryd, bydd ei ganllawiau ymarferol yn helpu i feithrin cysylltiadau cryfach rhwng academyddion a gwleidyddion, gan fwyhau effaith y gwyddorau cymdeithasol”.
Dywedodd yr Athro Rick Delbridge, Deon Ymchwil, Arloesedd a Menter ym Mhrifysgol Caerdydd, a wnaeth ariannu’r prosiect: "Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi’r Ymgyrch a’i gweithgareddau drwy gydnabod a hyrwyddo’r gwyddorau cymdeithasol fel elfen allweddol o’r academi a chyfrannydd allweddol i’r gymdeithas..."
Y prosiect hwn yw’r diweddaraf yng ngwaith yr Ymgyrch i hyrwyddo rôl arbenigedd yn y gwyddorau cymdeithasol mewn gwneud polisïau, gan gynnwys ei hadroddiad diweddaraf The Health of People, sy’n edrych ar sut y gall y gwyddorau cymdeithasol wella iechyd cyhoeddus.
Lansiwyd y pecyn adnoddau ym Mae Caerdydd ger bron cynulleidfa a oedd yn cynnwys Llywodraeth Cymru ac Aelodau’r Cynulliad, gweision sifil, ac academyddion. Fe’i noddwyd gan Huw Irranca-Davies, AC dros Ogwr a Chadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Brifysgolion. Roedd y digwyddiad hefyd yn cynnwys astudiaethau achos gan yr Athro Emma Renold, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, a Dr Peter Mackie, yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio.