Myfyriwr ysgrifennu creadigol yn ennill cystadleuaeth stori fer
24 Hydref 2017
Myfyriwr ysgrifennu creadigol yn ennill cystadleuaeth stori fer
Mae David Simmonds wedi ennill y 2017 Artists’ and Writers’ Short Story Competition, a ddenodd dros 2,000 o ymgeiswyr.
Roedd David wedi cofrestru ar Weithdy Ysgrifennu Nofel a addysgwyd gan Lynne Barratt-Lee ar ôl iddo ymddeol yn gynnar o BBC Cymru lle bu’n newyddiadurwr. Ar ôl gyrfa yn ymdrin ag adrodd ffeithiau, penderfynodd roi cynnig ar ysgrifennu ffuglen.
'Roedd hi o bell ffordd y peth gorau y gallwn fod wedi’i wneud’, meddai David. ‘Pan ddaw hi’n fater o ysgrifennu ar gyfer cyhoeddi, mae Lynne wedi bod yno ganwaith o’r blaen. Roedd ei chyngor yn seiliedig ar flynyddoedd o brofiad, ac roedd ei beirniadaeth ar ein gwaith yn addfwyn ac adeiladol, a’r ymarferion a roes i ni’n ddiddorol ac ysgogol.
Roedd bod yn rhan o grŵp o bobl o feddwl tebyg yn dra defnyddiol hefyd. Ar ôl goroesi’r embaras cychwynnol wrth ddarllen ein gwaith ar goedd i’n gilydd - a waeth i mi ddweud fod cyflwyno’ch gwaith i eraill ei feirniadu yn rhan hanfodol o’r broses - roedd cael adborth mewn amgylchedd cefnogol gan eraill a oedd yn rhannu’r un nod â chi yn brofiad cadarnhaol iawn.
Ers gorffen y cwrs, rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i fod wedi gwerthu cwpwl o straeon byrion i gylchgrawn cenedlaethol, ac rwyf newydd ennill yr Artists’ and Writers’ Short Story Competition, a oedd y peth mwyaf cyffrous i ddigwydd i mi ers amser maith.
‘Felly, os ydych erioed wedi coleddu uchelgais i weld eich gwaith wedi’i gyhoeddi, neu os oes llyfr yn cuddio y tu mewn i chi rywle yn awchus i weld golau dydd, byddwn yn sicr yn argymell cwrs Lynne i chi. O‘r hyn lleiaf, byddwch yn cael cryn dipyn o hwyl ac yn cwrdd â phobl ddiddorol iawn!’
Dywedodd Lynne Barratt-Lee:
"Mae’n rhoi cymaint o foddhad imi bob tro y gwelaf un o’m cynfyfyrwyr yn cael llwyddiant wrth ysgrifennu. Felly, ni allwn fod wedi bod yn hapusach i glywed bod David wedi dod yn gyntaf mewn cystadleuaeth â chymaint o fri arni. Dydw i ddim yn synnu, fodd bynnag; mae David yn awdur medrus â chryn ddawn, ac mae’n wych ei weld yn cael cydnabyddiaeth fel hyn.”
(Gellir darllen stori fer fuddugol David, ‘Evie’, ar lein yma.
Bydd Gweithdy Ysgrifennu Novel nesaf Lynne yn dechrau ar 17 Ionawr 2018.