Tonnau sain tanddwr yn helpu gwyddonwyr i ganfod trawiadau morol
24 Hydref 2017
Mae gwyddonwyr wedi datblygu dull newydd o leoli’r union amser a’r lleoliad pan mae gwrthrychau’n disgyn i’n cefnforoedd.
Mae'r dull, a ddatblygwyd gan ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd, yn defnyddio meicroffonau tanddwr – sy’n cael eu galw hefyd yn hydroffonau – i wrando am donnau sain sy'n cael eu hallyrru pan fydd gwrthrych yn taro wyneb y môr.
Maent o’r farn y gellir defnyddio’r dull newydd i ddod o hyd i feteoritau, lloerenni neu hyd yn oed rannau o awyrennau sydd, o bosibl, wedi disgyn i’r môr. Yn ogystal, gellir ei ddefnyddio i leoli ffrwydradau tanddwr, tirlithriadau neu uwchganolbwynt daeargrynfeydd bellter maith allan yn y môr.
Mae'r dull newydd, a gyflwynwyd yn y cyfnodolyn Scientific Reports, yn dibynnu ar fesur tonnau disgyrchiant acwstig (TDA) – tonnau synau a grëir yn naturiol, sy'n symud drwy'r cefnfor dwfn ar y gyflymdra sain, sydd â’r gallu i deithio miloedd o fetrau islaw’r wyneb.
Gall TDA fesur degau neu hyd yn oed cannoedd o gilomedrau, a chredir bod rhai mathau o fodau byw nad ydynt yn gallu nofio'n groes i gerrynt, megis plancton, yn dibynnu ar y tonnau i'w helpu i symud, sy'n eu helpu i ddod o hyd i fwyd.
Pan fydd gwrthrychau yn taro arwyneb y môr maent yn achosi newid sydyn mewn pwysedd dŵr, sy'n arwain at gynhyrchu’r TDA.
Yn y rhan gyntaf o’u hastudiaeth, gollyngodd y tîm 18 sffer ar wyneb tanc dŵr, o amrywiaeth o bellteroedd ac uchderoedd, a mesur y TDA a allyrrwyd yn sgil hynny gan ddefnyddio hydroffon.
Yn dilyn hyn, dadansoddodd y tîm oriau o ddata o hydroffonau oddi ar arfordir gorllewin Awstralia. Gweithredir yr hydroffonau hyn gan y Gyfundrefn Gynhwysfawr er Gwahardd-Profion Niwclear (CTBTO) ar gyfer canfod profion niwclear tanddwr, ond gallant hefyd dderbyn signalau gan TDA.
Gan ddefnyddio'r data hwn, llwyddodd y tîm i ddilysu eu dull drwy gyfrifo amser a lleoliad y daeargrynfeydd diweddar yng Nghefnfor India, yn llwyddiannus.
“Mae olrhain y tonnau disgyrchiant acwstig hyn yn cynnig ystod eang o bosibliadau, o leoli meteoritau sy’n syrthio i ddod o hyd i dirlithiadau, llithriadau eira, ymchwydd stormydd, tswnamis a thonnau peryglus.
MH370
Aeth y tîm, hefyd, gam ymhellach a dadansoddi data a gasglwyd o un o’r hydroffonau ar 18 Mawrth 2014, pan ddiflannodd Hediad Malaysian Airlines MH370 dros Gefnfor De’r India.
Rhwng 00:00 ac 02:00 UTC, pan gredir y diflannodd yr awyren, daethant o hyd i ddau “signal hynod o wan” o amgylch llwybr hedfan awgrymedig MH370. Canlyniad y ddau signal hyn oedd man cymharol fawr o ansicrwydd lle y mae’n bosibl y bu yno rhyw fath o drawiad.
“Er i ni leoli dau bwynt oddeutu’r adeg pan ddiflannodd MH370, o ffynhonnell anhysbys, ni allwn ddweud yn gwbl sicr bod gan y rhain unrhyw beth i’w wneud â’r awyren. Yr hyn yr ydym yn ei wybod yw bod yr hydroffonau wedi canfod signalau hynod o wan yn y lleoliadau hynny a bod y signalau, yn ôl ein cyfrifiadau, yn rhoi cyfrif am rhyw fath o drawiad yng Nghefnfor yr India.
“Mae'r holl wybodaeth hon wedi ei throsglwyddo i Swyddfa Diogelwch Trafnidiaeth Awstralia, ac rydym yn disgwyl y gellir defnyddio’r ffynhonnell newydd hon o wybodaeth nawr, ac yn y dyfodol, ar y cyd ag ystod arall o ddata sydd ar gael i’r awdurdodau.”