Ffosiliau o goed hynaf y byd yn datgelu anatomeg gymhleth nas gwelwyd erioed o’r blaen
23 Hydref 2017
Roedd y coed cyntaf i dyfu ar y Ddaear hefyd y cymhlethaf, yn ôl ymchwil newydd.
Mae ffosiliau o goeden 385 miliwn o flynyddoedd oed a ddarganfuwyd yn China wedi datgelu gwe ryng-gysylltiedig o edefynnau prennaidd o fewn boncyff y goeden sy’n gymhlethach o lawer na’r hyn a geir yn y coed a welwn o’n cwmpas heddiw.
Mae’r edefynnau, a adwaenir fel sylem, yn gyfrifol am fynd â dŵr o wreiddiau’r goeden i’w changhennau a’i dail. Yn y coed mwyaf cyfarwydd, mae’r sylem yn ffurfio silindr unigol yr ychwanegir ato dyfiant newydd mewn cylchoedd flwyddyn ar ôl blwyddyn fymryn o dan y rhisgl. Mewn coed eraill, yn enwedig palmwydd, ffurfir y sylem mewn edefynnau wedi eu hymgorffori mewn meinweoedd meddalach drwy’r boncyff.
Mewn erthygl yng nghyfnodolyn Proceedings of the National Academy of Sciences, mae’r gwyddonwyr wedi dangos bod y coed cynharaf yn perthyn i grŵp a adwaenir fel y cladoxlopsidau yr oedd eu sylem wedi ei wasgaru yn edefynnau ym 5cm allanol y boncyff yn unig, tra bod rhuddin y boncyff yn gwbl wag.
Roedd yr edefynnau cul wedi eu gosod mewn modd trefnus, ac yn rhyng-gysylltiedig â’i gilydd megis rhwydwaith cain o bibau dŵr.
A video explaining the discovery.
Mae'r tîm, sy'n cynnwys ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd, Sefydliad Daeareg a Phaleontoleg Nanjing, a Phrifysgol Talaith Efrog Newydd, hefyd wedi dangos bod datblygiad yr edefynnau hyn yn galluogi twf cyffredinol y goeden.
Yn hytrach na bod y goeden yn gosod un cylch tyfiant o dan y rhisgl bob blwyddyn, roedd pob un o’r cannoedd o edefynnau yn tyfu eu cylchoedd eu hunain, fel casgliad mawr o goed bychain.
Wrth i’r edefynnau dyfu, ac wrth i swmp y meinweoedd meddal rhyngddynt gynyddu, ehangodd diamedr y boncyff. Mae’r darganfyddiad newydd yn dangos yn glir y byddai’r cysylltiadau rhwng pob un o’r edefynnau wedi ymwahanu mewn modd rhyfedd o reoledig a hunan-atgyweiriol er mwyn addasu at y tyfiant.
Ar waelod eithaf y goeden yr oedd hefyd fecanwaith rhyfedd ar waith. Wrth i ddiamedr y goeden ehangu, byddai’r edefynnau prennaidd yn gwthio allan o ochrau’r boncyff wrth fôn y goeden gan ffurfio’r sylfaen gwastad nodweddiadol sy’n gyfystyr â’r cladoxylopsidau.
"Trwy astudio’r ffosiliau hynod brin hyn, rydym wedi cael mewnwelediad digynsail i anatomeg ein coed cynharaf a’u mecanweithiau twf cymhleth.
“Mae hyn yn codi cwestiwn ysgogol: pam mai’r coed hynaf yw’r mwyaf cymhleth?”
Mae Dr Berry yn astudio cladoxylopsidau ers bron i 30 mlynedd, gan ddod o hyd i ffosiliau darniog ledled y byd. Yn flaenorol mae wedi dadorchuddio coedwig ffosilaidd a fu cyn hynny’n chwedlonol yn Gilboa, Efrog Newydd, lle tyfai coed cladoxylopsid dros 385 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
Ond eto i gyd, fe synnwyd Dr Berry pan oedd cydweithiwr wedi dadorchuddio ffosil boncyff coeden cladoxylopsid anferthol mewn cyflwr da yn Xinjiang, gogledd-orllewin China.
“Roedd enghreifftiau blaenorol o’r coed hyn wedi ymlenwi â thywod wrth ffosileiddio, heb gynnig mwy na chliwiau cyffrous ynghylch eu hanatomeg. Mae’r boncyff ffosiledig a gafwyd o Xinjiang yn anferthol, ac wedi ei gadw mewn cyflwr perffaith mewn silica gwydraidd o ganlyniad i waddodion folcanig. Galluogodd hyn i ni archwilio pob un gell y planhigyn”, aeth Dr Berry yn ei flaen i’w ddweud.
Nod cyffredinol ymchwil Dr Berry yw deall faint o garbon y gallai’r coed hyn eu dal o’r atmosffer a sut effeithiodd hyn ar hinsawdd y Ddaear.