Cynfyfyriwr cerddoriaeth yn farnwr arbenigol ar raglen Sky 1 Sing: Ultimate A Cappella
20 Hydref 2017
Mae Rachel Mason, wnaeth raddio o Ysgol Cerdd Prifysgol Caerdydd, yn aelod o’r panel o bum barnwr arbenigol ar y sioe newydd sbon Sing: Ultimate A Cappella ar Sky1.
Yn y sioe – sy’n cael ei chyflwyno gan Cat Deely – mae pum act yn perfformio bob wythnos i geisio creu argraff ar y barnwyr, er mwyn ennill y cyfle i recordio albwm yn stiwdios Abbey Road.
Enwebwyd y sioe yn ddiweddar am y wobr Sioe Dalent yng Ngwobrau Teledu Cenedlaethol 2018.
Dewiswyd Rachel – fu’n fyfyrwraig ym Mhrifysgol Caerdydd rhwng 2000 a 2003 – ar gyfer y rôl yn sgil ei phrofiad o farnu cyngherddau lleisiol ledled y byd, cyfarwyddo grwpiau corawl sydd wedi ennill gwobrau, ac fel hyfforddwyr lleisiol i nifer o gantorion.
Wrth feddwl am ei hamser ym Mhrifysgol Caerdydd, mae gan Rachel atgofion cynnes o’r darlithoedd Haydn gyda’r Athro David Wyn Jones a darlithoedd pop a roc gyda’r diweddar Athro Kenneth Gloag.
Ers iddi raddio, bu Rachel yn farnwr panel yn Voice Festival UK yn ogystal â chystadlaethau corawl a Phencampwriaethau Corau Perfformio yn Singapore, Hong Kong, Canada, y DU ac Iwerddon.
Mae Rachel yn un o sylfaenwyr ac yn Gyfarwyddwr Cerdd côr perfformio gorau’r DU, Euphoria, sydd wedi ennill gwobrau. Maent wedi perfformio yn Neuadd Frenhinol Albert, Disneyland yn Hollywood, ar y daith BBC Strictly Come Dancing, ac wedi cefnogi enillwyr Britain’s Got Talent, Spelbound.
Ysgrifennodd y gân wnaeth ennill gwobr, Body on Mute, ar gyfer Euphoria, sef y gân a ddaeth yn anthem swyddogol ar gyfer yr elusen ryngwladol Beat Bullying. Mae hi wedi gweithio’n ogystal gyda gymnastwyr Olympaidd Prydain Fawr ym meysydd dehongli a mynegi cerddorol, ar gyfer eu hactau.
Bellach, mae Rachel yn ysgrifennu caneuon gyda cherddorion sefydledig a rhai sy’n dod i’r amlwg – ac yn ysgrifennu caneuon ar gyfer y cerddorion hynny – gan gynnwys BBC Introducing, Canadian Idol, a chyn gystadleuwyr ar The Voice. Mae hi hefyd, ar hyn o bryd, yn perfformio fel un o'r ddeuawd sy’n canu ac ysgrifennu, Tucker and Mason, yn ogystal â rhedeg y côr perfformio Amplify a chôr cymunedol yng Ngwlad yr haf.