Gwyddonydd o Brifysgol Caerdydd yn cael anrhydedd gan un o brifysgolion hynaf Tsieina
20 Hydref 2017
Mae gwyddonydd arloesol o Gaerdydd a helpodd i leihau faint o fercwri a ddefnyddir yn niwydiannau cemegol Tsieina wedi cael ei enwi'n athro anrhydeddus ym Mhrifysgol Tianjin.
Mae'r Athro Graham Hutchings wedi cael clod yn fyd-eang am ei waith ar gyflymu adweithiau cemegol gan ddefnyddio catalyddion.
Mae ymchwil gan Gyfarwyddwr Sefydliad Catalysis Caerdydd wedi arwain at ddull glanach ar gyfer cynhyrchu clorid polyfinyl (PVC) gan ddefnyddio aur fel catalydd yn hytrach na mercwri, sy'n niweidiol.
O ganlyniad i bartneriaeth â'r cwmni mawr technolegau cynaliadwy Johnson Matthey, mae ei waith wedi cael ei fasnacheiddio yn Tsieina – cynhyrchydd a defnyddiwr mwyaf PVC yn y byd – gan helpu i lanhau afonydd a wenwynwyd gan y metel trwm.
Tianjin yw prifysgol orau Tsieina ar gyfer peirianneg gemegol. Cafodd ei sefydlu ym 1895 fel Prifysgol Peiyang, ac mae ganddi hanes disglair. Yno, cafodd injan awyrennau cyntaf Tsieina ei datblygu, ynghyd â'i cherbyd awyr di-griw cyntaf.
"Rydw i wrth fy modd ac yn hynod falch o gael fy anrhydeddu gan Brifysgol Tianjin," meddai'r Athro Hutchings.
"Mae'r brifysgol ar flaen y gad yn fyd-eang, gyda hanes o ddyfeisiadau gwyddonol. Mae ei gyfadran peirianneg gemegol yn cynnwys 7,000 o fyfyrwyr a 2,000 o staff. Mae campws newydd sbon, ac wyth o adeiladau at ddefnydd peirianneg gemegol yn unig, yn ei gwneud yn ganolbwynt ar gyfer gwyddoniaeth yn Tsieina.
"Mae Tianjin yn parhau i ennill gwobrau rhyngwladol ar gyfer ei chyfraniad at amrywiaeth eang o ddisgyblaethau, gan gynnwys cynhyrchion fferyllol, roboteg, a pheirianneg fodurol," ychwanegodd yr Athro Hutchings, sydd hefyd yn Athro Regius – un o anrhydeddau gwyddoniaeth uchaf y DU.
Mae Sefydliad Catalysis Caerdydd wedi ymrwymo i wella dealltwriaeth o gatalysis, yn datblygu prosesau catalytig newydd gyda diwydiant ac yn hyrwyddo defnydd o gatalysis fel technoleg gynaliadwy yn yr 21ain ganrif. Bydd yn symud i gartref newydd o'r radd flaenaf ar Gampws Arloesedd Caerdydd yn 2020.