Gŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol
19 Hydref 2017
Caiff ymchwil gwyddorau cymdeithasol arloesol Prifysgol Caerdydd ei dathlu mewn gŵyl dros wythnos ym mis Tachwedd.
Mewn cyfres o ddigwyddiadau rhwng 6 a 10 Tachwedd 2017, bydd ymchwil y Brifysgol mewn meysydd fel teuluoedd teirieithog, iechyd a lles mewn ysgolion, a chelf i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu harddangos mewn cyfres o ddigwyddiadau.
Ymhlith rhai o'r digwyddiadau a gynlluniwyd ar gyfer y cyhoedd mae dadl ynglŷn ag ymdrin â hanes y gwrthdaro yng Ngogledd Iwerddon, prosiect piano teithiol a gair llafar sy'n tynnu sylw at weledigaethau cadarnhaol ar gyfer ymateb i newid hinsawdd, a seminar ynglŷn â magu plant amlieithog.
Mae'r digwyddiadau hyn yn rhan o Ŵyl Gwyddorau Cymdeithasol y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, sy'n dod ag ymchwil gwyddorau cymdeithasol ym Mhrifysgolion y DU i gynulleidfaoedd amrywiol a newydd.
Meddai’r Athro Gillian Bristow, Deon Ymchwil Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd ac Athro Daearyddiaeth Economaidd: “Mae’n wych brolio cryfder ac ehangder ymchwil gwyddorau cymdeithasol yma ym Mhrifysgol Caerdydd.
"Mae ein hymchwilwyr yn cynnal ymchwil gwyddorau cymdeithasol o'r radd flaenaf sy'n llywio datblygiad polisïau, gwasanaethau ac arloesedd, ac mae'n mynd i’r afael â heriau cymdeithasol mawr yng Nghymru a thu hwnt..."
Mae'r digwyddiadau yn ystod yr wythnos yn rhad ac am ddim ond mae'n rhaid cadw lle. Mae'r amserlen lawn a rhagor o wybodaeth ar gael yma.
Mae ymchwil celfyddydau, dyniaethau a gwyddorau cymdeithasol y Brifysgol yn cynnwys meysydd fel y diwydiannau digidol, creadigol a diwylliannol; llywodraethiant datganoledig, trefol a rhanbarthol; teulu, rhywedd, hawliau dynol; iechyd, meddygaeth ac anabledd; cynaliadwyedd a'r amgylchedd; addysg; gwaith; data gwyddorau cymdeithasol; troseddu a diogelwch; a diwylliannau, credoau ac ieithoedd dynol.
Fel rhan o'i Champws Arloesedd £300m mae'r Brifysgol yn datblygu Parc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK). Bydd y Parc yn ganolfan ar gyfer ymchwil gwyddorau cymdeithasol ar draws y Brifysgol ac yn dod ag academyddion a sefydliadau polisïau ac arferion at ei gilydd i ddatblygu atebion newydd i heriau byd eang pwysig.