Partner Prifysgol Caerdydd, IQE, yn ennill prif wobr AIM
18 Hydref 2017
Mae partner Prifysgol Caerdydd, IQE, gwneuthurwr wafferi lled-ddargludyddion datblygiedig, wedi ennill y teitl ‘Technoleg Orau’ yng ngwobrau AIM 2017.
Mae IQE yn gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd a Llywodraethau Cymru a’r DU i ddatblygu ei weledigaeth i sefydlu clwstwr Lled-ddargludydd Cyfansawdd (LlC) cynta’r byd yng Nghymru.
Mae gwobrau AIM yn amlygu cwmnïau ac entrepreneuriaid sydd wedi defnyddio AIM (marchnad ryngwladol Cyfnewidfa Stoc Llundain ar gyfer cwmnïau bach sy’n datblygu) i’w helpu i gyflawni eu potensial llawn i dyfu yn y deuddeg mis diwethaf.
Mae gwobr IQE yn cydnabod arweinyddiaeth y cwmni mewn darparu wafferi LlC datblygiedig ar gyfer cynhyrchion sy’n galluogi technolegau mor amrywiol â ffonau symudol, dulliau cyfathrebu optegol cyflym a cherbydau sy’n gyrru eu hunain.
Yn ôl Drew Nelson, llywydd a Phrif Weithredwr Grŵp IQE: “Braint o’r mwyaf yw derbyn y wobr glodfawr hon. Mae Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn greiddiol ac yn ganolog i dechnolegau’r 21ain ganrif ac mae IQE wedi datblygu ystod o IP deunyddiau heb eu hail, sy’n ein galluogi i gynnig rhywbeth gwahanol yn y farchnad.
“I helpu i fanteisio ar y cyfleoedd sydd i ddod, rydym wedi llunio dau gytundeb menter ar y cyd: yn Singapôr, sy'n eiddo ar y cyd gan IQE, WIN Semiconductor a Phrifysgol Technoleg Cenedlaethol Singapôr, ac yn y Deyrnas Unedig, ar y cyd ag IQE a Phrifysgol Caerdydd.
Llongyfarchodd yr Athro Colin Riordan, Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, IQE ar dderbyn yr anrhydedd.
“Mae IQE yn parhau i arwain y byd wrth ymrwymo i ddatblygu a manteisio ar dechnolegau LlC sy’n allweddol i ddyfodol mwy gwyrdd, o gelloedd solar hynod effeithlon i olau ynni isel a nodweddion cyfnewid pŵer.”
Sefydlodd Prifysgol Caerdydd y Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd gydag IQE – menter 50/50 ‘er elw’ a’r canolbwynt newydd yn Ewrop ar gyfer datblygu cynnyrch, gwasanaethau a sgiliau mewn technolegau LlC.
Mae’r Ganolfan yn darparu cyfleusterau arloesol sy'n helpu ymchwilwyr a'r diwydiant i gydweithio, ac mae’n helpu Caerdydd i ennill ei phlwyf fel arweinydd y DU ac Ewrop o ran arbenigedd ym maes LlC.
Mae Prifysgol Caerdydd hefyd yn gweithio’n agos gydag IQE drwy gyfrwng y Sefydliad er Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, gan ddarparu cyfleusterau arloesol sy’n helpu ymchwilwyr a diwydiant i gydweithio.
Eleni, cafodd clwstwr LlC Cymru fuddsoddiad o £38m gan Fargen Ddinesig Prifddinas-Rhanbarth Caerdydd mewn ffowndri LlC ar gyfer Casnewydd. Yn 2016 cyhoeddodd Innovate UK – asiantaeth arloesedd Llywodraeth y DU – fuddsoddiad gwerth £50m i sefydlu Catapwlt Lled-ddargludyddion Cyfansawdd Caerdydd yng Nghymru.