Prawf damwain car ar gyfer meddygon
29 Ebrill 2015
Myfyrwyr meddygol o Gymru'n cael hyfforddiant damweiniau ffordd difrifol
Yr wythnos ddiwethaf, profwyd myfyrwyr meddygol i'r eithaf wrth i
Wasanaeth Ambiwlans Cymru greu sefyllfa damwain ffordd ddifrifol mewn ardal
wledig yn Sir Frycheiniog.
Mewn sawl senario damwain, roedd rhaid i fyfyrwyr ail flwyddyn unig gwrs
meddygaeth israddedig Cymru drin mathau gwahanol o anafiadau trawmatig a
achosir gan ddamweiniau car a beic modur.
Roedd myfyrwyr yn dysgu sut i asesu anafiadau'r claf, ei roi yn y safle cywir a'i symud yn ddiogel er
mwyn ei gludo i ganolfan trawma.
Mae'r ymarfer hwn sy'n efelychu bywyd go iawn yn un o sawl ffordd
arloesol o ddysgu a gyflwynwyd gan yr Ysgol Meddygaeth fel rhan o'r rhaglen
gradd israddedig newydd.
Mae'r diwrnod yn rhan o fenter hyfforddi ehangach i addysgu myfyrwyr am
ddarpariaeth gofal iechyd yng Nghymru wledig, gan gynnwys yr heriau yn sgîl pellter a dulliau o asesu trawma
gwledig.
"Roedd y diwrnod yn gyfle gwych i brofi rhai o'r gwahaniaethau sy'n
bodoli rhwng meddygaeth drefol a gwledig," meddai Carla-Marie Grubb, un o
fyfyrwyr meddygol Prifysgol Caerdydd.
"A minnau bob amser wedi byw mewn ardaloedd trefol iawn, roedd yn caniatáu
i mi werthfawrogi rhai o'r heriau sy'n wynebu meddygon sy'n gweithio mewn
amgylchedd gwledig, yn enwedig o ystyried y pellter maith rhwng cyfleusterau
meddygol.
"Roedd y senario argyfwng hefyd yn gyfle gwych i ni roi ein gwybodaeth
meddygaeth frys ar waith, a dechrau deall sut mae elfennau gwahanol y
gwasanaethau brys yn cydweithio er mwyn delio â sefyllfaoedd brys yn
effeithiol."
Yn ôl Dr Frances Gerrard, Uwch-ddarlithydd Clinigol ac Arweinydd Cyswllt Gofal Sylfaenol Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd:
"Mae'r Ysgol Meddygaeth wedi ymrwymo i gefnogi hyfforddiant meddygol sy'n
cynnwys holl gymunedau ac ardaloedd Cymru, gan gynnwys y gymuned wledig
ehangach.
"Mai rhagor o gyfleoedd ar gael drwy gydol y cwrs i fyfyrwyr gymryd rhan
yng ngofal meddygol cymunedau gwledig, a nod y lleoliad hwn yw annog diddordeb
myfyrwyr yn y lleoliadau eang y gallwn eu cynnig yng Nghanolbarth a Gogledd
Cymru."
Prif amcan cwricwlwm C21 newydd y Brifysgol yw dangos cleifion yn y gymuned i fyfyrwyr meddygol yn fuan, er mwyn rhoi profiad dysgu clinigol amrywiol iddynt.
Roedd aelodau o'r Gwasanaeth Ambiwlans, meddygon lleol a'r gwasanaeth achub mynydd wrth law i gynnig arweiniad arbenigol i'r myfyrwyr drwy gydol y dydd.