ESCRI yn helpu i nodi 10 mlynedd o BBC Science Café
18 Hydref 2017
Dathlodd BBC Radio Wales ddegawd o Science Café gyda rhaglen arbennig oedd yn edrych yn ôl ar ddarganfyddiadau gwyddonol yng Nghymru ac yn archwilio i sefyllfa bresennol ymchwil o'r radd flaenaf yng Nghymru.
Roedd y rhaglen yn edrych yn ôl ar straeon yn y wasg ddeng mlynedd yn ôl ac yn cynnig darlun cyfredol o'r ymchwil ddiweddaraf, gan gynnwys ail-ymweld â chyfweliad â Syr Martin Evans o Brifysgol Caerdydd am ei waith arloesol gyda bôn-gelloedd.
Er mwyn ystyried faint o gynnydd sydd wedi'i wneud ers i Science Café gael ei lansio, ymunodd Dr Toby Phesse, Cymrawd Ymchwil yn y Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd, â'r cyflwynydd Adam Walton i drafod ymchwil o'r radd flaenaf yn y Sefydliad.
Dr Toby Phesse: "Llwyddodd Sir Martin i newid disgyblaeth gyfan, gan newid bron i bob agwedd ar fioleg.
"Os ydych am ateb cwestiwn mewn corff byw, mae'n bwysig iawn gofyn cwestiynau mewn organeb lawn lle gallwn ddileu'r genyn penodol sydd o ddiddordeb.
"Er enghraifft, os ydym yn gallu gweld bod genyn ar ei fyny mewn canser, yna gallwn weld a oes angen y genyn yna ar gyfer y canser hwnnw a'i ddileu, i weld a yw'r canser yn lleihau."
Roedd y rhaglen yn trafod sut roedd y gwaith hwnnw wedi paratoi'r ffordd ar gyfer gwella ein dealltwriaeth o ganser yn ECSCRI.
Cymerodd Toby Pheese ran mewn rhaglen Ten Years of the Café, i esbonio ei ymchwil i rôl bôn-gelloedd canser a signalau celloedd yn natblygiad, twf a lledaeniad canser.
Dywedodd Toby: "Mae gan fôn-gelloedd a chanser berthynas agos.
"Rydym yn dal i geisio deall sut mae canserau'n dechrau, a sut maen nhw'n tyfu ac yn lledaenu.
"Rwy'n edrych ar y llwybrau signalau celloedd sydd ynghlwm â'r broses. Rydym yn ceisio gweld sut mae bôn-gelloedd yn gweithio a sut mae llwybrau signalau celloedd yn aml wedi eu dadreoleiddio mewn canserau."
Gwrandewch ar y rhaglen yma: http://www.bbc.co.uk/programmes/b098gz1h