Caerdydd yn cynnal cynhadledd lawfeddygaeth ryngwladol
17 Hydref 2017
Cafodd cynhadledd ei chynnal gan Ymchwil Meddygol Cydweithrediadol Caerdydd Tsieina (CCMRC, Prifysgol Caerdydd) ac Adran Llawfeddygaeth, Y Gymdeithas Feddygaeth Frenhinol. Rhoddodd lwyfan i’w rhyngwyneb gwyddonol a meddygol, a gwerth cydweithio ar draws ystod o ddisgyblaethau, er budd cleifion ledled Cymru a’r byd.
Cafodd Cyfarwyddwr CCMRC, yr Athro Wen Jiang, MBE, gwmni llawer o siaradwyr blaenllaw, gan gynnwys Mr Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd Cabinet Cymru dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, a Miss Rachel Hergest, Llywydd Adran Feddygol y Gymdeithas Feddygaeth Frenhinol ac enillydd gwobr Silver Scalpel 2017.
Ystyriodd y gynhadledd y modd y mae gweithwyr meddygol proffesiynol a gwleidyddion yn gweithio gyda'i gilydd i gyflwyno caniatâd tybiedig ar gyfer rhoi organau yng Nghymru. Ymysg y pynciau allweddol eraill roedd brechu yn erbyn canser, methiant coluddol, datblygiadau ym maes llawdriniaeth fasgwlaidd a rôl Coleg Brenhinol y Llawfeddygon.
Roedd y rhai a gymerodd ran yn cynnwys uwch-academyddion ynghyd â hyfforddeion a myfyrwyr fydd yn darparu gofal iechyd i bobl Cymru a thu hwnt yn y dyfodol.
Yn ôl yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething: “Mae cyfle i ddysgu fel hwn a rhannu arferion da, ar gyfer y rhai ar bob lefel o ddarparu gofal iechyd, yn mynd i fyfrannu at ddiogelu dyfodol ein gwasanaeth iechyd.
“Mae’n rhoi balchder i mi i wybod bod mentrau datblygu yma yng Nghymru, fel caniatâd tybiedig ar gyfer rhoi organau ac effaith hynny ar gyfraddau trawsblannu, yn cael eu harddangos i’r gymuned feddygol ryngwladol.”