Caerdydd yn meithrin cysylltiad agosach â Beijing
28 Ebrill 2015
Llofnodi
Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth
Llofnodwyd
Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Caerdydd a Chomisiwn Addysg Ddinesig
Beijing.
Cynhaliwyd y seremoni llofnodi gan Rag Is-Ganghellor y Brifysgol, Elizabeth
Treasure, a Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol Comisiwn Addysg Ddinesig Beijing,
Huang Kan, yn y Ganolfan Ymchwil Meddygol ar y Cyd â China (CCMRC: China Medical Research Collaborative)
yn yr Ysgol Meddygaeth.
Nod y cytundeb tair blynedd rhwng y ddau sefydliad yw sefydlu prosiectau
cydweithredol a gweithgareddau a fydd yn gwella datblygiad y ddwy wlad, drwy:
- Addysg a hyfforddiant
- Trosglwyddo gwybodaeth a thechnoleg
- Ymchwil sylfaenol a chymhwysol
- Datblygiad economaidd
Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn gwneud trefniadau ffurfiol ar gyfer:
- Rhaglenni cyfnewid cydweithredol lle bydd myfyrwyr o sefydliadau Beijing yn cael eu dewis i ddod i astudio yng Nghaerdydd
- Rhaglenni cyfnewid cyfadran, staff a myfyrwyr a rhaglenni hyfforddiant
- Rhaglenni addysgol a gweithgareddau addysgu Tsieinëeg/Saesneg
- Cynnal cynadleddau rhyngwladol a gweithgareddau ysgolheigaidd eraill
- Gwaith ymchwil, gan gyhoeddi papurau academaidd a throsglwyddo technoleg
"Mae'n fraint llofnodi'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ar ran Prifysgol Caerdydd i sefydlu perthynas ffurfiol â Llywodraeth Ddinesig Beijing. Mae Prifysgol Caerdydd eisoes wedi elwa o weithgareddau llwyddiannus â sefydliadau llywodraeth Beijing, fel Prifysgol Meddygaeth Capital a Phrifysgol Technoleg Beijing. Mae llofnodi'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn gam arall ymlaen wrth sicrhau llwyddiant parhaus y berthynas hon, a chyfnewid gwybodaeth rhwng y ddwy wlad er budd pawb."
Croesawyd y gwesteion o China yn CCMRC, lle cawsant eu cyflwyno i bump o fyfyrwyr cyfnewid o Brifysgol Meddygaeth Capital a gyrhaeddodd ym mis Hydref 2014 am leoliad chwe mis.
Mae'r myfyrwyr hyn yn cynrychioli'r rhaglen gyfnewid gyntaf rhwng y ddwy brifysgol ers lansio'r Ganolfan Ymchwil ar y Cyd yn 2013, a llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ym mis Hydref 2014. Mae dau o'r myfyrwyr cyfnewid wedi'i lleoli yn CCMRC, a byddant yn dychwelyd i Brifysgol Meddygaeth Capital ddiwedd mis Ebrill 2015.