Y Brifysgol yn gweithio gyda phobl ifanc i wella'r gymuned
28 Ebrill 2015
Mae pobl ifanc o'r Gurnos ym Merthyr Tudful wedi cyflwyno syniadau i wella eu cymuned fel rhan o brosiect ar y cyd â'r Brifysgol.
Maent am wneud yn siŵr eu bod yn gallu cerdded yn ddiogel i'r ysgol, cael mynediad hwylus at gyfleusterau lleol a chymdeithasu â'u ffrindiau.
Aeth pobl ifanc o Ysgol Bishop Hedley a Phrosiect Ieuenctid Forsythia ati i drefnu noson gweithredu, lle gwnaethant gyfarfod ag uwch-swyddogion yr heddlu a gwleidyddion lleol.
Mae'r bobl ifanc hyn yn cymryd rhan mewn prosiect ymchwil o'r enw Productive Margins: Regulating for Engagement, sef rhaglen arweinyddiaeth ieuenctid a gaiff ei chynnal gan y Brifysgol a Citizens Cymru Wales.
Cânt eu hannog i drin a thrafod y materion sydd o bwys i'r gymuned, a throi'r materion hynny'n gamau gweithredu sy'n arwain at newid.
Dywedodd Patrycja, 12, o Brosiect Ieuenctid Forsythia ac un o arweinwyr yr ymgyrch: "Rwy'n falch iawn o fi fy hun ac o'r gymuned leol am siarad â'r bobl bwysig hyn. Ac roedd yn ymddangos eu bod wir yn gwrando ac eisiau helpu."
Meddai Caitlin, 12, hefyd o Brosiect Ieuenctid Forsythia ac un o arweinwyr eraill yr ymgyrch: "Dyma'r tro cyntaf i mi siarad yn gyhoeddus. Cymerais y cam hwn am ein bod yn ceisio gwella diogelwch ar lwybr yr ydwyf fi a'm ffrindiau yn ei ddefnyddio bob dydd."
Aethpwyd â'r gwesteion pwysig ar daith o amgylch yr ardal, gan ddangos iddynt danlwybr yn llawn gwydr wedi torri a hen offer cyffuriau, yn ogystal â llwybr heb lawer o olau a ddefnyddir gan bobl ifanc a pheryglon ffordd leol brysur.
Bu'r rhai a gymerodd ran, sy'n galw eu hunain yn Sebras y Gurnos, yn adrodd straeon personol gan esbonio eu bod weithiau'n teimlo'n anniogel yn eu cymuned, ac esbonio sut byddai eu cynllun gweithredu tri phwynt yn helpu.
Mae'r grŵp gweithredu'n galw am groesfan sebra newydd, goleuadau gwell, a chau tanlwybr.
Roedd Alun Michael, Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, yn un o'r rheini a fu'n cymryd rhan.
Dywedodd: "Ar adeg pan rydym yn clywed cymaint o bethau negyddol am bobl ifanc, mae'n braf gweld pobl ifanc o Brosiect Ieuenctid Forsythia ac Ysgol Bishop Hedley yn cymryd cyfrifoldeb dros amlygu problemau a chanfod atebion. Maent yn ysbrydoliaeth.
"Gwnaethom wrando'n astud ar beth yr oedd ganddynt i'w ddweud, a byddwn yn cefnogi camau nesaf eu hymgyrch."
Daeth y materion i'r amlwg yn sgil dwsinau o sgyrsiau wyneb yn wyneb â phobl ifanc eraill, cyfweliadau gan ymchwilwyr y Brifysgol, mapio pryderon diogelwch yn ddigidol a thaith gerdded gymunedol i dynnu sylw at broblemau lleol.
Mae'r rhaglen Productive Margins, a gaiff ei hariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, yn cynnwys cyrff cymunedol a mentrau cymdeithasol yn ne Cymru a Bryste, ac academyddion o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Bryste.
Gan weithio gydag academyddion o wahanol ddisgyblaethau, partneriaid cymunedol ac artistiaid, nod y rhaglen yw caniatáu i bobl sy'n aml ar y cyrion o ran pŵer a phenderfyniadau greu ffyrdd newydd ar y cyd o wneud gwaith ymchwil, ymgysylltu a gwneud penderfyniadau.
Yn ôl Dr Eva Elliott, o Athrofa Cymdeithas, Iechyd a Lles Caerdydd ym Mhrifysgol Caerdydd: "Mae'r cam gweithredu hwn yn taflu golau cwbl newydd ar gymuned sy'n aml yn destun rhaglenni dramatig a straeon lle nad yw asedau a phwerau cadarnhaol pobl a lleoedd yn cael clod.
"Mae gennym uchelgais hirdymor i weld newidiadau cadarnhaol yn yr amgylchedd, yr economi a gwasanaethau cyhoeddus, dan arweiniad y cymunedau eu hunain.
"Cefnogir y gwaith hirdymor hwn gan un o brosiectau blaenllaw Prifysgol Caerdydd, Cymunedau Iach, Pobl Iachach."