Ewch i’r prif gynnwys

Allai arogl roi stop ar ddefnyddio plaladdwyr?

27 Ebrill 2015

Fly insect close up showing whole of fly

Gwyddonwyr yn ail-greu sylwedd naturiol sy'n cadw pryfed draw

Efallai bod gwyddonwyr y Brifysgol wedi darganfod ffordd naturiol o osgoi defnyddio plaladdwyr a helpu i amddiffyn planhigion drwy ail-greu sylwedd naturiol sy'n cadw pryfed draw.

Am y tro cyntaf erioed, mae gwyddonwyr o'r Ysgol Cemeg a Rothamsted Research wedi creu moleciwlau bychain sy'n dynwared arogl naturiol sy'n cadw pryfed draw.

Roedd y gwyddonwyr yn gallu creu moleciwlau i gadw pryfed draw sy'n arogli'r un fath â'r arogl naturiol hwn drwy gyfuno'r ensym (S)-germacrene D synthase, sy'n creu'r arogl, â moleciwlau swbstrad eraill.

Profwyd pa mor effeithiol yw'r arogl neu'r persawr wrth gadw pryfed draw.

Canfyddodd y tîm bod yr arogl yn llwyddo i gadw pryfed draw, ond gwelwyd ymddygiad i'r gwrthwyneb – a'r arogl yn denu pryfed – mewn un achos. Mae hyn yn arwain at y posibilrwydd o allu datblygu dyfais dal a difa.

"Rydym yn gwybod bod llawer o organebau'n defnyddio'r synnwyr arogli i gyfathrebu ag aelodau o'r un rhywogaeth ac i ddod o hyd i fwyd neu osgoi ymosodiad gan barasitiaid," yn ôl Pennaeth yr Ysgol Cemeg, yr Athro Rudolf Allemann, arweinydd y gwaith ymchwil.

"Fodd bynnag, yr anhawster gwyddonol yw bod moleciwlau arogl yn aml yn hynod anweddol, yn gemegol ansefydlog ac yn ddrud eu hail-greu. Mae hyn yn golygu mai araf iawn fu'r cynnydd hyd yma wrth ail-greu arogleuon sy'n debyg i'r gwreiddiol.

"Trwy bŵer technegau biocemegol newydd, rydym wedi gallu gwneud moleciwlau arogl sy'n cadw pryfed draw sy'n wahanol o ran strwythur, ond sy'n gweithredu'n debyg i'r gwreiddiol," ychwanegodd.

Dywedodd yr Athro John Pickett, FRS o Rothamsted Research: "Mae hyn yn torri tir newydd o ran dylunio arogleuon yn rhesymegol, ac mae'n ffordd newydd o gynhyrchu arogl sydd â nodweddion gwahanol, gwell o bosibl na'r arogl gwreiddiol, ond sy'n cadw'r gweithgaredd gwreiddiol ar yr un pryd.

"Trwy ddefnyddio swbstradau amgen ar gyfer yr ensymau sy'n rhan o'r biosynthesis ligand (biosynthesis yr arogl), gallwn greu'r gofod cemegol priodol i atgynhyrchu gweithgarwch yr arogl gwreiddiol, gyda strwythur moleciwlaidd gwahanol."

Mae'r tîm yn gobeithio y gallai'r gwaith ymchwil gynnig ffordd newydd o ddylunio a datblygu moleciwlau arogl bychain a fyddai fel arall yn rhy anodd eu cynhyrchu drwy ddulliau gwyddonol a masnachol arferol.

Rhannu’r stori hon