Meddygon a deintyddion wedi’u henwi’r GORAU yng Nghymru
24 Ebrill 2015

Mae
Deoniaeth Cymru Prifysgol Caerdydd wedi anrhydeddu meddygon yng Nghymru mewn
digwyddiad a gynhaliwyd gan Gymdeithas Feddygol Prydain (BMA) yng Ngholeg
Brenhinol Cerdd a Drama Caerdydd.
Gwobrwywyd yr enwebeion llwyddiannus am eu rhagoriaeth wrth hyfforddi'r
genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol meddygol a deintyddol ledled Cymru.
Gofynnwyd i bob meddyg a deintydd sy'n cael eu hyfforddi yng Nghymru i enwebu ymgynghorydd, meddyg teulu, deintydd neu staff a meddyg cyswllt arbenigol oedd wedi perfformio'n rhagorol yn eu tyb hwy.
Y gweithwyr proffesiynol canlynol oedd Hyfforddwyr y Flwyddyn yng ngwobrau BEST 2014: Mr Owen Hughes; Ymgynghorydd Wrolegol yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Dr Julie Keely; Meddyg teulu ym Mhractis Grŵp Meddygol Aberhonddu, Dr Anand Ganesan; meddyg arbenigol mewn seiciatreg a Dr Dennis Barnes; meddyg arbenigol mewn Anaestheteg a Gofal Dwys yn Ysbytai Treforys/Singleton.
Enillodd Dr Phil Matthews Wobr Gydnabyddiaeth y Deon am ei wasanaethau ym maes addysg feddygol. Dr Phil Matthews yw Pennaeth yr Ysgol Hyfforddiant Arbenigedd i Feddygon Teulu ac Arweinydd Ad-drefnu Sefydliadau Sylfaen Deoniaeth Cymru, ac mae hefyd yn Is-ddeon. Mae wedi bod yn bartner ym Mhractis Meddygol Gŵyr ers 1988 hefyd.
Yn ôl yr Athro Derek Gallen, Deon Uwchraddedigion Deoniaeth Cymru: "Mae Deoniaeth Cymru yn arbennig o falch o fod wedi datblygu gwobrau BEST i gydnabod y safonau uchel o addysg feddygol a deintyddol yng Nghymru. Unwaith eto, mae'r safonau wedi bod yn uchel iawn ac maent yn adlewyrchu amser ac ymrwymiad y meddygon a'r deintyddion sydd ar flaen y gad ym meysydd addysg a hyfforddiant. Mae gwobrau BEST yn ddathliad teilwng ar gyfer y rhai sydd wedi'u henwebu gan eu hyfforddeion am yr amser a'r ymdrech y maent wedi'u rhoi i'r rôl.
Dywedodd Dr Owen Hughes: "Rwyf yn ffodus iawn. Mae gennym gyfleusterau gwych yng Nghymru a rhai athrawon unigol da iawn. Rwyf yn ffodus fy mod wedi cael fy enwebu gan fy hyfforddeion. Rwyf wedi dysgu llawer ganddynt. Er fy mod i'n moeli, maen nhw'n gwneud i mi deimlo'n ifanc."
Yn ôl Dr Julie Keely: "Braint yw cael cydnabyddiaeth am y ffaith i mi allu dod â gyrfa ac angerdd ynghyd a fy mod wedi gallu dysgu ac addysgu ddwywaith".
Meddai Dr Anand Ganesan: "Mae mynd ar drywydd syniadau syml gydag ymrwymiad, brwdfrydedd a phroffesiynoldeb yn arwain at arloesedd, newid agwedd a meddygon sy'n perfformio'n well gan wella gofal i gleifion a'r GIG yn y pen draw."
Dywedodd Dr Dennis Barnes: "Braint yw ennill Gwobr BEST am Arloesedd mewn Gwasanaeth Clinigol 2014; Rwyf yn cael fy annog i weithio hyd yn oed yn galetach yn fy maes. Diolch i Ddeoniaeth Cymru am y wobr."
Mae'r gwobrau'n rhan o raglen 'Goruchwylio Llwybr i Ragoriaeth' sy'n ceisio sicrhau rhagoriaeth mewn hyfforddiant meddygol drwy ddatblygu a chefnogi goruchwylwyr a hyfforddwyr clinigol addysgol o safon ledled Cymru.
Erbyn hyn, mae gwobrau blynyddol BEST yn rhan o Wobrau Athro/Athrawes Glinigol y Flwyddyn BMA/BMJ a gynhelir ar y cyd gan Ysgol Meddygaeth Caerdydd, Ysgol Meddygaeth Abertawe a Deoniaeth Cymru.
Cafodd pedwar enillydd y wobr fwrsari addysg feddygol gwerth £3,000 hefyd.
Nod strategol Deoniaeth Cymru yw comisiynu, rheoli ansawdd a chefnogi addysg a hyfforddiant ar gyfer hyfforddeion, meddygon ysbytai, meddygon teulu, deintyddion ac ymarferwyr gofal deintyddol yng Nghymru.