Offeryn newydd i asesu effaith newid hinsawdd ar law eithafol
12 Hydref 2017
Crëwyd generadur stormydd glaw sy’n gallu efelychu amodau glaw eithafol mewn amryw o sefyllfaoedd newid hinsawdd gan dîm a arweinir gan Dr Michael Singer o Brifysgol Caerdydd.
Mae’r model, STORM, yn gallu cael ei gymhwyso at unrhyw ardal yn seiliedig ar wybodaeth o lawiadau blaenorol a pha faint o law a gafwyd bob munud.
Y gobaith yw y bydd STORM yn galluogi gwyddonwyr i ddeall a rhagweld yn well effeithiau newid hinsawdd a helpu i baratoi ar gyfer canlyniadau eithafol stormydd glaw mawr, megis llifogydd.
Mae’r model wedi ei gyflwyno mewn papur newydd a gyhoeddwyd heddiw yn y cyfnodolyn Environmental Research Letters.
Caiff stormydd o daranau, a adwaenir hefyd fel glaw darfudol, eu cynhyrchu pan fydd wyneb y ddaear wedi ei chynhesu’n ddigonol, gan alluogi lleithder i godi’n gyflym i’r atmosffer a chyddwyso’n fuan iawn a ffurfio stormydd sydyn.
Mae gan law darfudol rôl allweddol wrth reoli faint o ddŵr sy’n rhedeg i’r afonydd a llif yr afon yr afon ei hun, yn ogystal â swm y dŵr a ddarperir i lystyfiant a phoblogaethau dynol; fodd bynnag, ychydig a wyddys am yr effaith a gaiff newid hinsawdd ar law darfudol.
Mae hyn yn bwysig am y gall glaw darfudol arwain yn aml at lifogydd eithafol a thrychinebau dilynol mewn ardaloedd poblog.
Dywedodd Dr Michael Singer, o Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd, Prifysgol Caerdydd: "Y broblem gyffredinol ein bod yn gwybod bod newid hinsawdd yn digwydd ledled y byd, ond nid ydym yn gwybod sut y bydd yn effeithio ar law darfudol a’r dŵr ffo cysylltiedig."
I fynd i’r afael â’r her hon, datblygodd y tîm fodel a fyddai’n efelychu stormydd glaw unigol dros fasn afon benodol mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd newid hinsawdd dros nifer o ddegawdau.
Yn eu hastudiaeth, cymhwysodd y tîm, sydd hefyd yn cynnwys Dr Katerina Michaelides o Brifysgol Bryste, eu model at Ddalgylch Arbrofol Walnut Gulch yn Arizona - ardal a chanddi ddata gwych am lawiadau hanesyddol.
Darganfu’r tîm gynnydd mewn glaw yn y rhanbarth yn gyffredinol, ond bod pob storm yn llai dwys, ac felly fod llai o ddŵr wedi ei ollwng. Golygai hyn fod y dŵr yn dod mewn glawiadau llai ond amlach.
"Mae’r glaw llai dwys hwn yn awgrymu bod llai o ddŵr ffo ar y wyneb, sy’n golygu y dylem weld gostyngiad yn y dŵr ffo dros y basn cyfan. Mae canlyniadau ein model yn cytuno gyda’r data hyn - cafwyd gostyngiad yn y dŵr ffo o fewn y ffrwd fyrhoedlog hon.”
Mae’r canlyniadau hyn yn mynd yn groes i syniadau blaenorol ynghylch sut dylai glaw ymateb i gynhesu atmosfferig.
Mae Dr Singer a’i dîm yn bwriadu cymhwyso eu model at ardaloedd eraill er mwyn archwilio sut bydd newid hinsawdd yn effeithio ar faint ac amlder dŵr ffo i afonydd.