Sioe Deithiol 'Stand Up Be Counted' Sky News
23 Ebrill 2015
Bydd barn
myfyrwyr wrth wraidd darllediadau Sky News dros gyfnod yr etholiad
Rhoddir cyfle i fyfyrwyr
Prifysgol Caerdydd leisio eu barn ar y materion sydd o bwys iddynt i'r genedl,
fel rhan o fenter Sky News i geisio rhoi llais i bobl ifanc wrth roi sylw i
etholiad 2015.
Bydd stiwdio arbennig yn ymweld
â'r Brifysgol heddiw fel rhan o ymgyrch 'Stand
Up Be Counted' y darlledwr. Nod yr ymgyrch yw annog pobl ifanc i ymgysylltu
â gwleidyddiaeth yn y cyfnod cyn yr Etholiad Cyffredinol ym mis Mai.
Bydd eitemau'n cael eu darlledu'n fyw drwy gydol y dydd, a bydd y stiwdio'n rhoi cyfle i fyfyrwyr recordio fideos sy'n eu galluogi i ddweud eu dweud o flaen cynulleidfa fawr ar draws pob un o lwyfannau Sky. Bydd y stiwdio hefyd yn ganolbwynt i'r sylw ehangach a roddir i'r Etholiad Cyffredinol gan Sky News.
Mae Caerdydd yn un o 11 o leoliadau yn y DU y bydd y stiwdio ryngweithiol yn ymweld â nhw fel rhan o ymgyrch sy'n canolbwyntio ar etholaethau allweddol yn y DU cyn yr etholiad.
Bydd bwth tynnu lluniau yn y stiwdio hefyd, lle gall pobl ifanc rannu eu
lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol gyda'r hashnod #SUBCTour. Bydd offer
awtociw yno hefyd, fel bod myfyrwyr yn gallu rhoi cynnig ar gyflwyno ar y
teledu.
Dywedodd Elliott Howells, Llywydd
Undeb y Myfyrwyr: "Mae annog myfyrwyr i ddangos diddordeb yn yr Etholiad
Cyffredinol wedi bod yn flaenoriaeth bersonol i mi a'r sefydliad eleni. Rwyf yn
hynod falch o'r hyn yr ydym wedi'i gyflawni hyd yma, gyda'n hymgyrch i annog
pleidleiswyr i gofrestru, a'r ddadl wleidyddol a gynhelir yr wythnos nesaf. Mae
cael sioe deithiol Sky ar gampws y Brifysgol yn gyffrous iawn! Mae'n
ddigwyddiad gwych i'w ychwanegu at ein catalog o ddigwyddiadau sy'n ymwneud â'r
Etholiad Cyffredinol ac mae'n sicr o fod yn boblogaidd ymysg y myfyrwyr. Mae'r
rhagdybiaeth nad oes ots gan bobl ifanc am yr etholiad yn gelwydd noeth, ac
mae'r ymgysylltiad gwleidyddol a welaf ymhlith ein myfyrwyr yn galonogol
iawn."
Meddai John
Ryley, Pennaeth Sky News: "Mae'r daith hon yn gyfle cyffrous iawn i bobl
ifanc gymryd rhan yn Stand Up Be Counted
ar lefel ranbarthol. Bydd yn dod â phrofiad unigryw at garreg drws pobl a allai
deimlo eu bod wedi'u hymddieithrio oddi wrth y pleidiau gwleidyddol ac
addewidion eu hymgyrchoedd. Rydym yn gobeithio y bydd y daith yn helpu i roi
llais i fwy o bobl ifanc cyn yr Etholiad Cyffredinol, a bydd ein holl
ymdrechion yn mynd tuag at gryfhau'r llais hwnnw."
Bydd y
stiwdio symudol gyferbyn ag Undeb y Myfyrwyr rhwng 10am a 5pm ddydd Gwener 24
Ebrill.