Gornest Prifysgolion Cymru 2015
23 Ebrill 2015
Dwy fuddugoliaeth i Dîm Caerdydd wrth iddo gadw'i afael ar Darian yr Ornest ac ennill Cwpan yr Ornest
Daeth y digwyddiad chwaraeon mwyaf i fyfyrwyr yng Nghymru i ben neithiwr wrth i Dîm Caerdydd gipio Cwpan yr Ornest yn y gêm rygbi i ddynion yng ngornest flynyddol Prifysgolion Cymru.
Cystadlodd myfyrwyr o dros 30 o glybiau chwaraeon o brifysgolion Abertawe a Chaerdydd yn erbyn ei gilydd drwy'r dydd, i geisio ennill Tarian yr Ornest.
Yn uchafbwynt i'r digwyddiad yr oedd gêm rygbi'r dynion yn Stadiwm Liberty Abertawe, lle cafodd myfyrwyr Caerdydd fuddugoliaeth o 27-22 dros fyfyrwyr Abertawe, a chipio Cwpan yr Ornest. Llwyddodd Tîm Caerdydd i gadw'i afael ar Darian yr Ornest hefyd. Mae Tîm Caerdydd wedi ennill y Darian hon bob blwyddyn ers dechrau'r gystadleuaeth.
Dyma'r 19eg blwyddyn i'r digwyddiad gael ei gynnal, a llwyddodd i ddenu'r gynulleidfa fwyaf erioed wrth i dros 20,000 o gefnogwyr deithio i Abertawe i wylio'r gemau mewn lleoliadau ar draws y ddinas.
Cymerodd cystadleuwyr o'r ddwy brifysgol ran mewn campau fel rhwyfo, beicio, criced, polo, lacrosse, tenis a phêl-rwyd.
Yn ôl Bryn Griffiths, Llywydd yr Undeb Athletau, Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd: "Mae cymryd rhan yng nghystadleuaeth Gornest Prifysgolion Cymru yn gamp arbennig i fyfyrwyr, gan mai dyma yw uchafbwynt chwaraeon y flwyddyn. Roedd ymroddiad a pharatodau trylwyr y ddau dîm yn amlwg ddoe yn yr holl gemau ac ym mhob camp. Dylai pawb fod yn falch iawn o'u perfformiad. Roedd y gêm rygbi, sef uchafbwynt yr ornest, mor gyffrous ag erioed, ond roedd yn wych gweld Tîm Caerdydd yn fuddugoliaethus ar ôl perfformiad cryf."
Eleni, roedd myfyrwyr y ddwy brifysgol yn cefnogi ymgyrch 'Careiau Enfys' (Rainbow Laces) Stonewall. Nod yr ymgyrch yw mynd i'r afael â homoffobia mewn chwaraeon a chefnogi chwaraewyr hoyw.
Mae ymgyrch Careiau Enfys wedi cael cefnogaeth amlwg gan enwogion fel arwr rygbi Cymru Gareth Thomas, Stephen Fry, Gary Lineker, Thomas Hitzlsperger, Clwb Pêl-droed Arsenal a Chlwb Pêl-droed Manchester City. Mae gwaith ymchwil Stonewall Cymru ar y cyd â Chwaraeon Cymru yn dangos bod un person lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol o bob tri wedi teimlo eu bod wedi'u cau allan o'r byd chwaraeon oherwydd eu cyfeiriadedd rhywiol. Roedd tri ymatebydd o bob pedwar wedi clywed cellwair homoffobig.