Sylfaenydd busnes o Gaerdydd yn cwrdd â Syr Richard Branson
10 Hydref 2017
Bydd entrepreneur o Brifysgol Caerdydd yn cyflwyno ei syniad i Syr Richard Branson ar ôl ennill £5,000 mewn cystadleuaeth Busnes Virgin Media ranbarthol.
Cafodd cwmni Daniel Swygart, TrekinHerd, sef ap symudol ar gyfer heicwyr ac anturwyr awyr agored, y wobr gyntaf yng Nghaerdydd yr wythnos ddiwethaf fel rhan o Daith Voom 2017.
Nawr bydd Daniel yn cwrdd â'r pennaeth ar gwmni Virgin am frecwast hwyr yn Llundain y dydd Iau hwn 12 Hydref.
Yn wreiddiol o Landegla, ger Rhuthun, sefydlodd Daniel TrekinHerd pan oedd yn astudio economeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Cafodd y syniad ar gyfer yr ap ar ôl ii Dan sylweddoli nad oedd modd iddo rannu ei anturiaethau, chwilio'n hawdd am leoedd newydd i ymweld â nhw, neu gwrdd â phobl eraill â diddordebau tebyg.
Mae TrekinHerd yn cynnig platfform cymdeithasol ar gyfer anturwyr awyr agored a heicwyr ar raddfa fyd-eang, gan alluogi defnyddwyr i bwysleisio eu taith lle bynnag y bônt yn y byd.
Yn ôl Daniel: "Bydd cwrdd â Syr Richard Branson yn brofiad anhygoel. Doeddwn i ddim wedi sylweddoli y byddai llwyfan Taith Voom Virgin Media yn gyhoeddus, gyda siopwyr Caerdydd yn stopio i wrando. Hwn oedd un o brofiadau mwyaf arswydus fy mywyd hyd yma heb amheuaeth. Llwyddais i fynegi pob gair o fy nghyflwyniad dwy funud yn glir, gan gynnwys ateb pob un o'r cwestiynau, ar ôl treulio pedwar diwrnod yn ymarfer..."
Mae TrekinHerd yn galluogi defnyddwyr i ysgrifennu blogiau, ychwanegu lluniau a fideos, cofnodi eu llwyddiannau chwaraeon, a rhoi lle maen nhw wedi bod ar fap. Mae hefyd yn galluogi defnyddwyr i gwrdd a chysylltu ag anturwyr cyfagos ble bynnag maen nhw, ac i rannu profiadau am leoedd newydd.
Cynhaliodd y busnes newydd grwpiau ffocws gyda chynulleidfa o heicwyr ac anturwyr awyr agored ym Mhrifysgol Caerdydd er mwyn sicrhau bod nodweddion yr ap wedi eu teilwra'n benodol ar gyfer gofynion y farchnad.
Ychwanegodd Daniel: "Erbyn hyn mae gan TrekinHerd fuddsoddwyr, mae wedi'i noddi gan Open Genius, a bydd yn rhan o raglenni cyflymu twf Welsh ICE ac E-Spark, ac enillodd gystadleuaeth Think Digital ym Mhrifysgol Caerdydd. Erbyn hyn mae gennym dîm o saith yn gweithio i lansio'r ap."
Datblygwyd TrekinHerd gan District5, cwmni datblygu meddalwedd newydd yn Ne Cymru. Bydd yr ap yn cael ei lansio ym mis Tachwedd 2017 ar iOS ac Android.