Dathlu menywod Asiaidd yng Nghymru
24 Ebrill 2015
Seremoni wobrwyo i gydnabod cyfraniad menywod Asiaidd yng Nghymru
Bydd cyflawniadau menywod Asiaidd yng Nghymru'n
cael eu cydnabod mewn seremoni wobrwyo a gynhelir ar 25 Ebrill, gyda chefnogaeth
Prifysgol Caerdydd.
Cynhelir y seremoni yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd. Bydd y gwesteion yn mwynhau
bwyd Asiaidd wedi'i baratoi gan Stephen Gomes, cogydd arobryn bwyty Moksh, a
bydd yr adloniant yn cynnwys perfformiad gan ddawnswyr Bollywood.
Yr Athro Meena Upadhyaya o Brifysgol Caerdydd a ysbrydolodd y gwobrau hyn.
Ychydig o flynyddoedd yn ôl, penderfynodd bod angen gwneud rhywbeth i ddathlu
cyflawniadau menywod Asiaidd yng Nghymru, gan mai prin yw'r sylw sy'n cael ei
roi iddynt yn aml. Mae'r noswaith hefyd yn ceisio amlygu menywod sy'n esiamplau
i'r gymuned Asiaidd.
Yn ôl yr Athro Upadhyaya o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: "Bydd Gwobrau Cyflawniad Menywod Asiaidd Cymru yn cydnabod cyfraniad menywod Asiaidd beth bynnag fo'u galwedigaeth yng Nghymru. Gwahoddwyd enwebiadau ar gyfer menywod o bob cwr o Asia sydd wedi byw yng Nghymru ers dwy flynedd neu ragor. Unwaith eto, mae safon yr enwebiadau wedi bod yn eithriadol o uchel, ac rydym yn falch iawn o gael cefnogaeth barhaus Prifysgol Caerdydd."
Y Fonesig Rosemary Butler, Llywydd y Cynulliad, yw prif westai'r seremoni. Bydd amrywiaeth o wleidyddion ac enwogion yno hefyd.
Yn ôl y Fonesig Rosemary: "Mae'n bleser gen i fynd i'r digwyddiad hwn a dathlu cyflawniadau menywod Asiaidd yng Nghymru.
"Mae'n bwysig bod gennym fenywod sy'n esiamplau cryfion ym mhob cymuned, ac ym mhob elfen o fywyd, gan fod menywod yn cael eu tangynrychioli ym mhrosesau gwneud penderfyniadau yng Nghymru, boed hynny mewn gwleidyddiaeth neu ar fyrddau rheoli.
"Rwy'n gobeithio bod menywod Asiaidd, yn ogystal â menywod ifanc o gymunedau ledled Cymru, yn gweld ac yn cymryd sylw o'u cyflawniadau a sylweddoli bod hwythau hefyd yn gallu chwalu'r rhwystrau mewn byd lle mae dynion dal ar y blaen."
Mae Prifysgol Caerdydd yn cefnogi'r gwobrau ac mae'r beirniaid yn
cynnwys yr Athro Julian Sampson, Pennaeth y Sefydliad Canser a Geneteg
Feddygol. Meddai'r Athro Sampson:
"Mae llawer o fenywod gwirioneddol eithriadol wedi'u henwebu yng Ngwobrau
Cyflawniad Menywod Asiaidd Cymru a gynhelir am y trydydd tro. Mae hyn yn cynnal
y safonau uchel dros ben a gafwyd yn y gorffennol. Mae gallu cwrdd â rhai o'r
enwebeion a gallu clywed eu storïau ysbrydoledig wedi bod yn fraint. Rwy'n
edrych ymlaen yn aruthrol at y seremoni wobrwyo ac at ddathlu cyfraniadau
enfawr pob un o'r enwebeion i Gymru."
Hanesion ysbrydoledig 18 o enillwyr eithriadol
WAWAA yn y ddwy seremoni ddiwethaf, ac sydd wedi mentro'n llwyddiannus i
diriogaethau heriol a newydd, sy'n cael sylw mewn llyfr o'r enw "HER"
a gaiff ei lansio ar 25 Ebrill yn y seremoni.
Mae'r llyfr, a ariennir yn rhannol gan Brifysgol Caerdydd, yn amlygu casgliad o
fenywod o wahanol oedrannau sy'n esiamplau i eraill. Maent wedi gorfod brwydro
ac ymdrechu i gyflawni eu dyheadau. Bydd y ddogfen hon yn gofnod rhagorol a
pharhaol i fenywod Asiaidd yn ogystal â phob menyw arall.