Athro o Brifysgol Caerdydd yn cael cydnabyddiaeth am waith arloesol
9 Hydref 2017
Mae athro o Brifysgol Caerdydd wedi'i ethol yn Aelod Anrhydeddus o gymdeithas gastroenterolegol hynaf Ewrop i gydnabod ei waith arloesol yn ymchwilio i rôl signalau calsiwm yng nghlefyd y pancreas.
Ym 1984, fe gofnododd yr Athro Ole Petersen CBE FRS, o Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd, y ceryntau sianeli sengl cyntaf o gelloedd epithelial. Aeth yn ei flaen wedi hynny i ddarganfod signalau calsiwm rhyng-gellog lleol, sut mae calsiwm yn cael ei ryddhau o’r amlen niwclear, yn ogystal â thwneli calsiwm rhyng-gellog.
O ganlyniad i ymchwil yr Athro ynghylch signalau calsiwm a llid y pancreas, bydd treialon clinigol yn cael eu datblygu cyn bo hir yn seiliedig ar ei ddarganfyddiadau.
Fe gyflwynodd Cymdeithas Gastroenteroleg a Chlefydau Traul a Metabolaidd yr Almaen yr Aelodaeth Anrhydeddus i’r Athro Ole Peterson i gydnabod ei ymchwil am rôl sianeli ïonau mewn celloedd epithelial yn ogystal â rôl signalau calsiwm trosglwyddo yn y pancreas ecsocrin.
Fe gyflwynodd Llywydd y Gymdeithas, yr Athro Markus Lerch, yr aelodaeth i Ole Peterson yn 72ain cyfarfod blynyddol y Gymdeithas yn Dresden, cyn traddodi Darlith Wobrwyo fodern yn Almaeneg ynghylch hanfod llid y pancreas sy'n gysylltiedig ag alcohol.
Dywedodd Ole: "Mae derbyn y wobr hon gan Gymdeithas Gastroenteroleg a Chlefydau Traul a Metobolaidd yr Almaen yn anrhydedd enfawr.
"Ers blynyddoedd lawer rydw i wedi cydweithio’n agos â sefydliadau Gwyddoniaeth a Meddygaeth yn yr Almaen gan fy mod yn aelod o Academi Genedlaethol Gwyddorau yr Almaen - Leopoldina. Rydw i hefyd wedi yn aelod o Fyrddau Cynghori Cymdeithas Max Planck ac yn brif drefnydd y symposia blynyddol am bynciau biofeddygol yn Sefydliad Klaus Tschira yn Heidelberg.
"Heddiw, mae’r cysylltiadau hyn wedi'u cryfhau ymhellach drwy gael fy ethol yn Aelod Anrhydeddus o gymdeithas gastroenterolegol amlycaf, fwyaf a hynaf Ewrop."