Gwahodd contractwyr i gwrdd â chwmnïau sydd am wneud cais i weithio ar y Campws
9 Hydref 2017
Gwahoddir cwmnïau adeiladu, contractwyr a chyflenwyr sydd â diddordeb mewn gweithio ar Gampws Arloesedd £300m Prifysgol Caerdydd i 'gwrdd â'r cynigwyr'.
Bydd y digwyddiad galw heibio hanner diwrnod yng Nghanolfan Addysgu Ôl-raddedigion yr Ysgol Busnes ar 16 Tachwedd yn cyflwyno cwmnïau adeiladu mawr sy'n gobeithio adeiladu'r Campws i is-gontractwyr a chyflenwyr posibl.
Dywedodd Chris Strong, Cyfarwyddwr Portffolio, Campws Arloesedd Caerdydd: "Dyluniwyd ein digwyddiad 'Cwrdd â'r Cynigwyr' i roi cyfle cynnar i gwmnïau gwrdd â'r prif rai sy'n gwneud cynnig am y contract adeiladu a gosod – rydym yn disgwyl ei gyhoeddi ddiwedd mis Rhagfyr 2017.
"Bydd gwahodd datganiadau o ddiddordeb gan gyflenwyr cadwyn gyflenwi nawr yn helpu i hwyluso dechrau'r gwaith adeiladu yn 2018. Mae gennym ddiddordeb mewn siarad ag amrywiaeth o gontractwyr a chyflenwyr, gan gynnwys gweithredwyr peiriannau trwm a chwmnïau sy'n cynnig gosodion a ffitiadau swyddfa."
Mae Campws Arloesedd Caerdydd yn ganolog i weledigaeth y Brifysgol ar gyfer ffyniant economaidd yng Nghymru.
Bydd dau adeilad newydd ar safle Heol Maendy yn cynnwys pedair canolfan rhagoriaeth.
Mae'r Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd a Sefydliad Catalysis Caerdydd eisoes yn arloesi yng ngwaith ymchwil gwyddonol y 21ain Ganrif. Bydd y Ganolfan Arloesedd yn meithrin partneriaethau rhwng entrepreneuriaid, arweinwyr busnes, cynghorwyr proffesiynol, academyddion a myfyrwyr, a bydd Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol yn helpu i ddatrys problemau'r gymdeithas drwy gynnal ymchwil gymdeithasol.
I gadw lle yn nigwyddiad 'Cwrdd â'r Cynigwyr', ewch i'n tudalen Eventbrite.