Darganfyddiad allweddol am ganser gastro-berfeddol: bôn gelloedd a'r derbynnydd Frizzled7
6 Hydref 2017
Mae Dr Toby Phesse yn y Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd ym Mhrifysgol Caerdydd wedi gwneud darganfyddiad allweddol yn ddiweddar ynglŷn â sut mae derbynnydd yn y llwybr gastroberfeddol yn gweithio a'i rôl mewn canser, ac mae hyn yn cynnig targed therapiwtig posibl ar gyfer trin canser gastro-berfeddol.
Mae'r derbynnydd Frizzled7 (Fzd7) yn trawsyrru signalau Wnt pwysig yn y llwybr gastroberfeddol ac mae'n angenrheidiol ar gyfer gweithrediad arferol. Caiff signalau Wnt eu trawsyrru yn ystod cyflyrau arferol yn y llwybr gastroberfeddol ynghŷd â mewn ymateb i niwed.
Mewn cydweithrediad â'r Athro Elizabeth Vincan a Dr Dustin Flanagan yn Sefydliad Doherty, Prifysgol Melbourne, gwelsant fod Frizzled7 yn cael ei fynegi llawer mewn bôn gelloedd coluddol.
Drwy ragor o gydweithio ag arloeswyr bôn gelloedd, yr Athro Hans Clevers a'r Athro Nick Barker, roedd modd iddynt ddileu Frizzled7 mewn bôn gelloedd coluddol, ac roedd hyn yn dangos mai Frizzled7 oedd y prif dderbynnydd oedd yn galluogi bôn-gelloedd coluddol i drawsyrru signalau Wnt hanfodol.
Yn ogystal â'r rôl hanfodol sydd gan signalau Wnt yn y broses o gynnal amodau arferol y llwybr gastroberfeddol, gwelir hefyd ei fod yn dadreoleiddio yn ystod sawl math o ganser – gan gynnwys canserau'r coluddyn a chanserau gastrig.
Darganfu'r tîm rôl Frizzled7 mewn celloedd canser y coluddyn, a gwelwyd ei fod yn angenrheidiol ar gyfer trawsnewid y celloedd hyn, a'u galluogi i hadu mewn safle newydd yn y corff ar ôl gadael y prif diwmor.
Mae'r ymchwil yn amlygu'r potensial sydd gan Frizzled7 fel targed mewn triniaethau canser.
Dywedodd Dr Phesse: "Mae'r darganfyddiadau hyn wedi gwella ein dealltwriaeth o sut mae signalau Wnt yn rheoleiddio gweithrediad celloedd, ac mae wedi dangos bod Fizzled7 yn darged therapiwtig deniadol ar gyfer trin canser.
"Bydd yn gyffrous gweld sut bydd targedu'r derbynnydd hwn yn gallu bod yn fuddiol i gleifion canser."
References
1. Dustin J. Flanagan*, Toby J. Phesse*, Nick Barker*, Renate H.M. Schwab, Nancy Amin, Jordane Malaterre, Daniel E. Stange, Cameron J. Nowell, Scott A. Currie1, Jarel T.S. Saw, Eva Beuchert, Robert G. Ramsay, Owen J. Sansom, Matthias Ernst, Hans Clevers, Elizabeth Vincan. Frizzled7 Functions as a Wnt Receptor in Intestinal Epithelial Lgr5+ Stem Cells. (2015) Stem Cell Reports 4(5):759-67 *Authors contributed equally.
2. Dustin J Flanagan, Renate HM Schwab, Bang M Tran, Toby J Phesse*, Elizabeth Vincan*. Isolation and culture of adult intestinal, gastric and liver organoids for Cre-recombinase mediated gene deletion.(2016) Book chapter inMethods in Molecular Biology by Springer Protocols. PMID: 27704362. *Authors contributed equally.
3. Dustin J Flanagan, Nick Barker, Cameron Nowell, Hans Clevers, Matthias Ernst, Toby J Phesse*, Elizabeth Vincan*. Loss of the Wnt Receptor Frizzled7 in the Gastric Epithelium is Deleterious and Triggers Rapid Repopulation In Vivo. (2017). Disease Models and Mechanisms doi:10.1242/dmm.029876 [Epub ahead of print]. *Authors contributed equally.
4. Schwab RHM, Amin N, Flanagan DJ, Johanson TM, Phesse TJ*, Vincan E*. Wnt is necessary for mesenchymal to epithelial transition in colorectal cancer cells. (2017) Dev Dyn. May 30. doi: 10.1002/dvdy.24527 [Epub ahead of print]. *Authors contributed equally.
5. Phesse T,Flanagan D, Vincan E. Frizzled7: A Promising Achilles' Heel for Targeting the Wnt Receptor Complex to Treat Cancer. (2016) Cancers May 17;8(5). pii: E50.
6. Flanagan DJ, Vincan E, Phesse TJ. Winding back Wnt signalling: potential therapeutic targets for treating gastric cancers. (2017) British Journal of Pharmacology. Jun 1. doi: 10.1111/bph.13890 [Epub ahead of print].