Cydleoli yn cael sêl bendith y Prif Weinidog
6 Hydref 2017

Mae Prif Weinidog Cymru, y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones, wedi agor yn swyddogol swyddfeydd newydd Sefydliad y Cyfarwyddwyr yng Nghymru yn Ysgol Fusnes Caerdydd.
Bydd yn cynnig nifer o fuddion a chyfleoedd i staff a myfyrwyr yr Ysgol yn ogystal ag aelodau Cymru’r Sefydliad.
Mae’r Sefydliad yn cynrychioli ac yn dod â chyfarwyddwyr busnes ynghyd o sefydliadau o bob maint ledled y wlad. Mae eu cydleoli yn Ysgol Fusnes Caerdydd yn adlewyrchu ymdrech barhaus i arwain a dylanwadu ar bolisi’r llywodraeth ac egino cydweithrediadau ac ymchwil busnes.
Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones: “Mae’n gwneud synnwyr perffaith i’r Sefydliad gael ei leoli yn Ysgol Fusnes Caerdydd. I fusnesau o bob maint mae’n bwysig iawn gallu dysgu o’r arbenigedd yma...”

“Dyma ddechrau rhywbeth y credaf y bydd yn enghraifft fuddiol iawn o gydweithio. Mae’n eithriadol o bwysig ein bod yn gweld modelau tebyg yn datblygu ledled Cymru.”
Dywedodd yr Athro Martin Kitchener, Deon a Phennaeth yr Ysgol: “Mae’n wych y gallwn weithio’n agosach â’n partneriaid yn y Sefydliad, sy’n sefydliad rydym wedi’i gefnogi ers blynyddoedd lawer...”

“Mae llwyddiant ymrwymiad ein Hysgol i hyrwyddo gwelliant economaidd a chymdeithasol drwy ein strategaeth Gwerth Cyhoeddus unigryw yn dibynnu ar ymgysylltu’n llwyddiannus â phartneriaid yn y sector preifat, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector.”
“Gobeithiaf y bydd y datblygiad cyffrous hwn yn cynnig mwy o gyfleoedd i aelodau’r Sefydliad gydweithio â’n cyfadran a’n myfyrwyr, er budd pawb.”
Ychwanegodd Robert Lloyd Griffiths, Cyfarwyddwr Sefydliad y Cyfarwyddwr yng Nghymru: “Rwy’n un o gyn-fyfyrwyr yr ysgol ac mae gan y Sefydliad berthynas agos â’r Brifysgol ers tro, ynghyd â phopeth sydd gan yr Ysgol i’w gynnig o ran arloesi, mewnwelediad ac ymchwil o’r radd flaenaf....”

“Mae’n bleser cael ein pencadlys newydd yma ac rwy’n siŵr y bydd ein haelodau’n ffynnu drwy fewnbwn myfyrwyr ffres, deinamig yr Ysgol Fusnes, a fydd hefyd yn cael budd o brofiad ac arbenigedd ein haelodau.”
Mae rhoi cartref i’r Sefydliad yng Nghymru yn yr Ysgol Fusnes yn rhan o ymrwymiad ehangach y Brifysgol i greu hybiau i ymchwilwyr a phartneriaid allanol.
Bydd Campws Arloesi newydd ym Maindy Road yn galluogi mwy o sefydliadau i rannu lle ag ymchwilwyr blaenllaw â chyfleusterau cyfoes.