Ysgol yn ymateb i her cenhadaeth ddinesig
6 Hydref 2017
Mae Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd Addysg y Cabinet, wedi clywed sut mae Prifysgol Caerdydd yn ymateb i heriau cymdeithasol ac economaidd ein hoes ar ymweliad ag Ysgol Fusnes Caerdydd.
Mewn cyfres o gyflwyniadau, cyflwynwyd yr Ysgrifennydd Cabinet i strategaeth gwerth cyhoeddus yr Ysgol sy’n sail i ystod o weithgareddau o ymchwil i effaith y cyflog byw ac arloesi cyfrifol i bartneriaethau â sefydliadau fel Enactus a chymorth i fusnesau bach ac entrepreneuriaid.
Gan gydnabod rôl busnes a rheoli wrth fynd i’r afael â’r heriau sylweddol sy’n wynebu cymdeithas gyfoes, mabwysiadodd yr Ysgol strategaeth newydd yn 2015, gan ddod yr ysgol fusnes gwerth cyhoeddus gyntaf yn y byd.
“Dylanwad allweddol”
Dywedodd yr Athro Martin Kitchener, Deon a Phennaeth yr Ysgol: “Mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi bod yn ddylanwad allweddol wrth weithredu ein strategaeth newydd, felly mae’n bleser ei chroesawu i’r Brifysgol i rannu’r cynnydd a wnaed gennym wrth ymsefydlu gwerth cyhoeddus yn ein hymchwil, ein haddysgu a’n llywodraethu.
“Mae addysg fusnes yn destun craffu cynyddol felly mae’n bwysicach nag erioed inni ddangos ein perthnasedd a’r effaith a gawn ar y cymunedau oddi’n cwmpas...”
Clywodd yr Ysgrifennydd Cabinet hefyd sut mae gwerth cyhoeddus yn llywio addysgu a dysgu’r Ysgol, gan alluogi myfyrwyr i fagu hyder a gwella’u gallu critigol fel y gallant herio’r sefyllfa sydd ohoni ac ysgogi newid yn y swyddi y maen nhw’n mynd ati i’w gwneud.
Dywedodd Kirsty Williams AC: “Un o ddyheadau ein cenhadaeth genedlaethol ar gyfer addysg yw datblygu dinasyddion moesegol sy’n gallu ymateb i’r heriau sy’n wynebu Cymru a’r byd...”
“Edrychaf ymlaen at weld sut mae’r strategaeth hon yn datblygu ac yn effeithio’n gadarnhaol ar gymunedau lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol.”